Yn 2011, cyflwynodd Llywodraeth Cymru’r Glasbrint Casgliadau gwreiddiol – gweledigaeth feiddgar ar gyfer dull mwy cynaliadwy, effeithlon a chyson o gasglu gwastraff gan, neu ar ran, awdurdodau lleol ledled Cymru. Nawr, dros ddegawd yn ddiweddarach, mae’r Glasbrint Casgliadau 2025 wedi’i adnewyddu i adlewyrchu’r arferion, y datblygiadau a’r dystiolaeth ddiweddaraf yn y maes.
Mae'r Glasbrint wedi'i ddiweddaru hwn yn adeiladu ar lwyddiant y gwreiddiol, gan gynnwys:
- datblygiadau mewn technolegau casglu a didoli;
- arferion gorau sy'n datblygu gan awdurdodau lleol; a
- tystiolaeth newydd ar effeithiau amgylcheddol ac economaidd.
Mae hefyd wedi mynd ymhellach nag ailgylchu i gynnwys ailddefnyddio, compostio (gan gynnwys Treuliad Anaerobig) a sut i reoli unrhyw wastraff sy'n weddill, er mwyn darparu'r canlyniadau cynaliadwy gorau yn gyffredinol yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
I wireddu’r Glasbrint, mae WRAP Cymru wedi datblygu cyfres o astudiaethau achos manwl sy’n dangos sut mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn ei roi ar waith. Mae’r enghreifftiau go iawn hyn yn tynnu sylw at fanteision gwasanaethau cyson o ansawdd uchel, o gyfraddau ailgylchu uwch i arbedion cost a gwell boddhad cyhoeddus.
P'un a ydych chi'n lluniwr polisi, yn awdurdod lleol, neu â diddordeb am sut y mae Cymru'n arwain y ffordd o ran rheoli gwastraff cynaliadwy, mae’r Glasbrint Casgliadau 2025 yn cynnig map ffordd clir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer y dyfodol.