Problem
Cyngor Gwynedd oedd un o’r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i roi casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos ar waith, yn 2014. Yn ogystal, roedd yn un o’r rhai cyntaf i gyflwyno troli tŵr ailgylchu, o’r enw ‘Cartgylchu’, yn 2012. Mae'r newidiadau hyn wedi helpu'r Cyngor i gasglu deunydd ailgylchadwy o safon a chynnal cyfradd ailgylchu gyson o dros 60% ers 2020.
Fodd bynnag, roedd nifer cynyddol o weithlu casglu gwastraff y Cyngor yn dioddef anafiadau cyhyrysgerbydol o ganlyniad i godi cynwysyddion ailgylchu. Arweiniodd yr anafiadau hyn at absenoldebau salwch anarferol o uchel ymhlith staff casglu. Er gwaethaf cynnig sesiynau ffisiotherapi, ni ostyngodd nifer yr anafiadau, gan effeithio ar effeithlonrwydd cyffredinol y gwasanaeth casglu gwastraff. Roedd yr angen am oramser a shifftiau ychwanegol ar gyfer staff nad oeddent wedi'u hanafu wedi cyfrannu at orwariant o fwy na £1.5m o fewn Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu’r Cyngor.
Ateb
Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, treialodd Cyngor Gwynedd raglen ffitrwydd i wella iechyd a lles ei griw casglu a lleihau anafiadau. Ymgysylltodd y tîm rheoli â gweithwyr i glywed eu barn a'u pryderon, gan ganiatáu cyd-greu ateb a fyddai’n canolbwyntio ar fesurau rhagweithiol i atal anafiadau, yn hytrach na dibynnu ar sesiynau ffisiotherapi nad oeddent yn cynnig ateb hirdymor.
Gan gydweithio â Byw'n Iach, sy'n rhedeg cyfleusterau hamdden y Cyngor, bu'r tîm rheoli gwastraff yn treialu rhaglen 16 wythnos i gefnogi ei griwiau casglu i gyflyru eu cyrff, gan eu gwneud yn llai agored i anafiadau.
- Cymerodd cyfanswm o 36 o unigolion ran yn y treial ar draws tair ardal weithredol y Cyngor.
- Roedd sesiynau ymarfer corff awr o hyd yn cael eu cynnal yn wythnosol, ac yna sesiynau addysgol 30 munud i ddilyn, yn oriau cynnar y prynhawn, pan oedd cyfleusterau Byw'n Iach ar eu lleiaf prysur.
- Roedd sesiynau ymarfer corff dan arweiniad yn cyflwyno cyfranogwyr i wahanol fathau o weithgareddau ffitrwydd, gan gynnwys codi pwysau, dosbarthiadau ffitrwydd, a chwaraeon tîm a raced.
- Roedd sesiynau llawn gwybodaeth yn cynnwys cyflwyniadau ar bynciau fel pwysigrwydd bwyta’n iach a hydradu, manteision cael ymarfer corff yn yr awyr agored, gofalu am eich iechyd meddwl, a ffyrdd o symud ymlaen ar ôl i’r treial ddod i ben.
- Cynhyrchwyd llawlyfr i arwain pob person drwy'r treial, gan alluogi cyfranogwyr i gofnodi cynnydd a chael gwybodaeth a chyngor ychwanegol.
- Cafodd y gweithwyr eu hyfforddi mewn grwpiau, gan ganiatáu iddynt fondio â'u tîm a datblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol.
- Cafodd y cyfranogwyr aelodaeth ar gyfer defnydd diderfyn o gyfleusterau Byw'n Iach yn ystod yr 16 wythnos, gan eu hannog i gymryd cyfrifoldeb personol am eu hiechyd a sefydlu arferion da.
Effaith
Mae’r dystiolaeth a gofnodwyd, a ddefnyddiwyd i werthuso’r treial, yn awgrymu bod y treial 16 wythnos wedi bod yn llwyddiant i Gyngor Gwynedd a’i weithwyr.
- Bu gwelliant mewn morâl ar draws y gweithlu: Teimlai'r criwiau casglu eu bod yn cael eu clywed, gan fod eu hawgrymiadau a'u barn wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r ymyriad hwn.
- Llai o absenoldeb salwch: Trwy fynd i'r afael ag anafiadau cyhyrysgerbydol wrth wraidd y broblem, roedd y Cyngor yn gallu lleihau'r tebygolrwydd y byddant yn digwydd eto.
- Gwelodd y cyfranogwyr ganlyniadau iechyd cadarnhaol: Nododd 75% o unigolion ostyngiad yn eu mesuriadau pwysedd gwaed a braster corff.
- Profodd gweithwyr les cyffredinol gwell: Nododd 89% ac 80% o gyfranogwyr welliant yn eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl, yn y drefn honno.
Roedd y bartneriaeth rhwng tîm rheoli gwastraff Cyngor Gwynedd a Byw'n Iach yn dangos agwedd ragweithiol at les y gweithlu, gan wella morâl gweithwyr a'u gallu i wrthsefyll anafiadau. Er mwyn datblygu ar lwyddiant y prosiect, mae'r Cyngor bellach yn dadansoddi dirnadaethau o'r treial i archwilio posibiliadau ar gyfer ei weithredu’n ehangach.