8 Gorffennaf 2025 Astudiaeth Achos

Cefnogi busnesau ym Merthyr Tudful i ailgylchu mwy

Problem

Yn 2021/22, cyflawnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gyfradd ailgylchu o 66.8%, gan nodi ei seithfed flwyddyn yn olynol o gyrraedd neu ragori ar dargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru. Roedd angen gwelliant pellach i gyrraedd y targed o 70% yn 2024/25.  

Er bod casgliadau ar garreg y drws wedi'u hoptimeiddio, roedd cyfle o hyd i wella cyfraddau ailgylchu a chompostio mewn Canolfannau Ailgylchu. Yn benodol, nid oedd gan fusnesau bach fynediad hawdd at gyfleusterau ailgylchu ac roedd angen atebion cost-effeithiol arnynt i gydymffurfio â rheoliadau gwastraff a oedd yn datblygu.

Roedd y Cyngor eisoes wedi bod yn casglu ailgylchu ar wahân gan fusnesau ers blynyddoedd, cyn cyflwyno'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle yn 2024. Fodd bynnag, er mwyn cefnogi busnesau lleol ymhellach a gwella cyfraddau ailgylchu, ceisiodd y Cyngor ffordd gost-niwtral o alluogi busnesau bach i ddanfon ffrydiau gwastraff ailgylchadwy wedi'u didoli ymlaen llaw mewn Canolfannau Ailgylchu gan sicrhau adennill costau’n llawn.

Trwy alinio ag Adran 45(1)(b) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a chynnal gofynion casglu ar wahân, roedd y Cyngor yn anelu at ehangu cyfleoedd ailgylchu masnachol gan gynnal ei ddyletswydd i gasglu gwastraff gan fusnesau. Sicrhaodd y dull hwn y gallai busnesau lleol fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol wrth wella cyfraddau ailgylchu cyffredinol ar draws y fwrdeistref. 

Ateb

Er mwyn gwella’r cyfraddau compostio, ailddefnyddio ac ailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu, a helpu busnesau i ailgylchu eu gwastraff yn well, rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gynllun ar waith sy’n caniatáu i fusnesau bach fynd â gwastraff masnachol cost-niwtral i Ganolfannau Ailgylchu’n rhad ac am ddim.

Lansiwyd y cynllun i ddechrau fel arbrawf ym mis Ionawr 2023 yng Nghanolfan Ailgylchu Dowlais. Oherwydd ei boblogrwydd, fe’i gwnaed yn barhaol a’i ehangu i gynnwys Canolfan Ailgylchu Aberfan o fis Ebrill 2024.

Anfonodd y Cyngor fanylion y cynllun newydd at ei gwsmeriaid gwastraff masnachol presennol. Er mwyn cymryd rhan, mae'n ofynnol i bob busnes gofrestru a thalu ffi weinyddol fach flynyddol o £48.70 i dalu cost eu nodiadau trosglwyddo gwastraff. Dyma'r unig gost flynyddol i fusnesau sy'n cymryd rhan, ac yna gellir danfon deunyddiau ailgylchadwy wedi'u didoli mewn Canolfannau Ailgylchu heb unrhyw gostau gwaredu ychwanegol.

Y deunyddiau a dderbynnir yw:

  • Deunydd pacio papur
  • Deunydd pacio metelaidd
  • Unedau oer
  • Cetris inc
  • Batris modurol
  • Metelau o unrhyw fath
  • Oergelloedd a rhewgelloedd
  • Tiwbiau fflwroleuol a bylbiau golau
  • Deunydd pacio cardbord
  • Deunydd pacio gwydr
  • Nwyddau electronig cymysg bach
  • Poteli nwy (Countrywide, Calor a Flo Gas yn unig)
  • Batris domestig
  • Tecstilau a dillad
  • Offer domestig mawr
  • CRTs, sgriniau teledu, a sgriniau PC di-frand (Gellir codi tâl o £50 am unedau brand neu rai â blaen gwydr)

Helpodd y cynllun i wella gwahaniad y gwastraff sy'n cyrraedd y safle a lleihau'r costau canlyniadol a'r logisteg a fyddai fel arall yn ofynnol gan y Cyngor i'w wahanu. Gellir adennill costau prosesu'r gwastraff hwn pan gaiff y deunydd ei werthu i'r cyfleusterau priodol fel deunydd ailgylchadwy o ansawdd uchel wedi'i wahanu.  

Yn gyffredinol, mae'r ateb yn creu sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill: gall busnesau gael gwared ar wastraff masnachol priodol yn rhad ac am ddim, ac mae'r Cyngor yn derbyn deunydd ailgylchadwy o ansawdd uchel wedi'i ddidoli ymlaen llaw i'w werthu. Mae'r system nid yn unig yn adennill y costau prosesu ond hefyd yn lleihau'r risg y bydd busnesau'n chwilio am gostau gwaredu rhatach, a allai arwain at dipio anghyfreithlon neu weithgareddau gwaredu gwastraff anghyfreithlon eraill. 

Effaith

Mae'r cynllun wedi galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gynhyrchu gwastraff masnachol o ansawdd uwch, wedi’i ddidoli’n well, am ddim cost net. Mae wedi:

  • Bod o fudd i fusnesau bach: Mae busnesau wedi gwneud arbedion sylweddol drwy leihau costau casglu a gwaredu. Er enghraifft, byddai costau gwaredu busnes ar gyfer casgliad metelau a phlastigion 360-litr wythnosol wedi costio £396.76 y flwyddyn, wyth gwaith y gost o ddefnyddio’r cynllun newydd. Mae arbedion pellach hefyd yn deillio o ddeunyddiau eraill a dderbynnir hefyd gan y Canolfannau Ailgylchu.
  • Lleihau gwaredu gwastraff gan y Ganolfan Ailgylchu: Bu gostyngiad o 141.5 tunnell yn y gwaredu gwastraff yng Nghanolfan Ailgylchu Dowlais rhwng 2023 a 2024, sef tua’r un pwysau ag 20 o eliffantod llawndwf!
  • Lleihau tipio anghyfreithlon: Yn 2022/2023, gwelwyd 1,177 o achosion o dipio anghyfreithlon cyn cyflwyno’r cynllun derbyn gwastraff masnachol, ond yn 2023/2024, ar ôl cyflwyno’r cynllun, mae’r achosion hyn wedi gostwng i 967, yr isaf y bu ers 2010/2011.
  • Lleihau costau i’r cyngor ac effaith amgylcheddol: Mae lleihau nifer y casgliadau gan gwsmeriaid wedi lleihau costau tanwydd a'i ôl troed carbon.
  • Cynyddu ansawdd gwastraff: Mae cyfran uwch o wastraff masnachol bellach yn cael ei ddidoli’n gywir a’i ailgylchu’n ddeunyddiau o ansawdd uchel, y gellir eu troi’n nwyddau i’w defnyddio at ddibenion newydd fel concrit, mannau chwarae, ac MDF.

Mae’r cynllun wedi’i gwneud yn hawdd a chyfleus i fusnesau bach fod yn fwy cylchol, gan ddargyfeirio deunyddiau gwerthfawr tuag at ailgylchu, a helpu i gyrraedd targed y Cyngor o ddod yn dref ddiwastraff erbyn 2050.