8 Gorffennaf 2025 Astudiaeth Achos

'Ydych chi’n gwneud fel y Jonesiaid?' ym Mlaenau Gwent

Problem

Llwyddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gyrraedd targed cyfradd ailgylchu 58% Llywodraeth Cymru yn 2018 drwy roi mentrau newydd amrywiol ar waith i wella ansawdd ailgylchu a lleihau gwastraff na ellir ei ailgylchu dros ben, gan ei roi ar y trywydd iawn i gyrraedd targedau’r dyfodol.

Er gwaethaf cynnig gwasanaethau casglu ailgylchu cynhwysfawr a mesurau i annog aelwydydd i beidio â chynhyrchu gormodedd o wastraff na ellir ei ailgylchu, cydnabu'r Cyngor yr angen i gynnwys yr holl breswylwyr mewn ymddygiad ailgylchu gwell. Gan y gwelwyd nad oedd rhai aelwydydd yn defnyddio'r gwasanaethau ailgylchu a ddarperir yn llawn, neu'n ailgylchu symiau bach iawn yn unig, roedd angen cynyddu'r didoli gwastraff mewn rhai ardaloedd.  

Ateb  

Er mwyn sicrhau bod pob cartref ym Mlaenau Gwent yn ailgylchu'n effeithiol, lansiodd y Cyngor ymgyrch yn targedu'r lleiafrif bach o breswylwyr sy'n ailgylchu ychydig iawn neu ddim byd o gwbl. Mae’r ymgyrch, o’r enw ‘Ydych chi’n gwneud fel y Jonesiaid?’, yn annog unigolion i gydymffurfio â gofynion ailgylchu drwy:

  • Ysgogi preswylwyr i fod yn rhan o’r mwyafrif sy’n ailgylchu: Mae'r ymgyrch yn amlygu ymddygiadau ailgylchu cywir fel y norm cymunedol, gan gyfeirio at y rhai nad ydynt yn ailgylchu fel y rhai 'gwahanol'.
  • Cynnig ymweliadau cartref gan swyddogion ailgylchu: Fel rhan o'r gefnogaeth a gynigir i breswylwyr, gellir galw Warden Ailgylchu i mewn i ddangos i aelwydydd sut i ddidoli ac ailgylchu eu gwastraff yn gywir.
  • Monitro ardaloedd i sicrhau bod preswylwyr yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ailgylchu: Mae wardeniaid yn monitro ardaloedd lle mae preswylwyr yn methu ag ailgylchu yn rheolaidd ac yn anfon llythyrau rhybudd i aelwydydd nad ydynt yn cydymffurfio.  
  • Rhoi dirwyon i’r rhai nad ydynt yn cydymffurfio: Mae aelwydydd nad ydynt yn dechrau ailgylchu ac sy'n parhau i roi eitemau y gellir eu hailgylchu yn eu bagiau du a'u biniau ar ôl derbyn rhybuddion, a Hysbysiad Adran 46, yn wynebu hysbysiad cosb benodedig o £100.

Ochr yn ochr â'r dull hwn, mae'r Cyngor yn cynnig cyngor ar ailgylchu i aelwydydd sydd angen cymorth ychwanegol drwy ei wefan, deunyddiau print, a llinell gymorth. Mae hyn yn galluogi preswylwyr i ddysgu beth y gallant ac na allant ei ailgylchu, archebu cynwysyddion newydd, a gofyn am unrhyw gymorth arall y gallent fod ei angen i wahanu eu gwastraff yn effeithiol.  

Effaith

Dros amser, sylwodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar welliant yn y nifer sy'n ailgylchu o ganlyniad i'r ymgyrch ‘Ydych chi’n gwneud fel y Jonesiaid?’:  

  • Cynyddodd y gyfradd ailgylchu i 65%: Arweiniodd hyn at i’r Cyngor hefyd gyrraedd y targed ailgylchu statudol ar gyfer 2019/20, a oedd yn galw am isafswm o 64%.  
  • Ymwelodd y Cyngor â dros 6,000 o gartrefi: Ymgysylltwyd â nifer sylweddol o breswylwyr, gan eu hysbysu am arferion ailgylchu effeithiol, o ganlyniad i ymdrechion y Wardeniaid Ailgylchu.  

Trwy roi ymgyrch ar waith a sefydlodd ailgylchu fel y norm cymdeithasol i ysgogi gwell ymddygiad ailgylchu ymysg preswylwyr, llwyddodd y Cyngor i gynyddu cyfranogiad cartrefi mewn ailgylchu, gan wella ei berfformiad ailgylchu ac effeithiolrwydd ei wasanaeth rheoli gwastraff.