Problem
Roedd Cyngor Sir Penfro, sy’n adnabyddus am gyflawni rhai o’r cyfraddau ailgylchu uchaf yng Nghymru, yn wynebu her newydd gyda chyflwyniad Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle Llywodraeth Cymru yn 2024. Roedd y ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes, elusen, a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff i’w ailgylchu yn y ffynhonnell.
Pan gafodd y cyhoeddiad ei wneud, roedd ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu o gartrefi sy'n rhannu biniau cymunedol gyda'u cymdogion yn cael ei gasglu gan ddefnyddio'r un cerbydau â'r gwasanaeth casglu gwastraff masnachol, ar y sail bod gan y ddau gasgliadau ailgylchu cymysg. Roedd y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd yn golygu bod yn rhaid i safleoedd masnachol wahanu eu gwastraff yn y ffynhonnell, ac, o'r herwydd, ni fyddai'r dull presennol o gasglu gwastraff cymysg yn cydymffurfio â'r gyfraith mwyach. Pan newidiodd y cerbydau casglu gwastraff masnachol i rai ag adrannau un ffrwd, nid oedd y Cyngor yn gallu parhau i ddarparu casgliadau cymunedol cymysg o gartrefi. Gan ei fod yn awyddus i gynnal ei gyfraddau ailgylchu uchel ac i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth, bu’n rhaid i Gyngor Sir Penfro addasu ei wasanaethau.
Rhwystr allweddol i gyflwyno gwahanu deunyddiau ehangach i gasgliadau cymunedol ar gyfer cartrefi oedd y gofod cyfyngedig sydd ar gael y tu mewn a thu allan i eiddo. Roedd hyn yn ei gwneud yn anos gweithredu gwahanu yn y ffynhonnell yn effeithiol. Roedd y Cyngor yn gweld y newid yn neddfwriaeth gweithleoedd fel cyfle i arloesi, gan sicrhau bod ailgylchu yn parhau i fod yn hygyrch ac effeithiol i'r holl breswylwyr.
Ateb
Mabwysiadodd Cyngor Sir Penfro ddull hyblyg a chynhwysol o fynd i’r afael â’r heriau a sicrhau bod casgliadau cymunedol o gartrefi yn cyd-fynd â’r system ehangach o ailgylchu ar garreg y drws wedi’i wahanu yn y ffynhonnell a weithredir ledled Sir Benfro. Rhoddwyd yr atebion canlynol ar waith i ddiwallu anghenion preswylwyr:
- Ailgylchu ar garreg y drws ar gyfer eiddo sy’n addas: Newidiodd adeiladau gyda digon o le y tu allan a mynediad i gerbydau casglu i dderbyn gwasanaethau casglu ailgylchu ar garreg y drws unigol (yn unol â'r system a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o gartrefi ledled Sir Benfro), gan sicrhau'r cyfleustra mwyaf posibl i breswylwyr.
- Systemau raciau mewn mannau storio biniau bach: Cyflwynwyd systemau raciau arloesol i fanteisio i’r eithaf ar le mewn mannau storio biniau cymunedol llai, gan sicrhau bod yr holl breswylwyr yn gallu gwahanu eu hailgylchu yn effeithlon.
- Bagiau cwad ar gyfer eu defnyddio dan do: Rhoddodd y Cyngor fagiau cwad y gellir eu hailddefnyddio i breswylwyr sy'n byw mewn eiddo lle'r oedd cyfyngiadau lle allanol yn golygu bod angen i gasgliadau cymunedol barhau. Roedd y bagiau'n galluogi preswylwyr i wahanu eu deunyddiau ailgylchadwy, fel gwydr, metelau, plastigion, cartonau, cardbord a phapur, y tu mewn i'w cartrefi. Mae preswylwyr yn gwagio'r bagiau cwad hyn i'r cynwysyddion priodol yn eu mannau storio biniau cymunedol. Roedd y bagiau bach hyn yn gwneud ailgylchu’n haws ei reoli mewn mannau cyfyngedig, ac roedd gwahanu deunyddiau yn galluogi’r fflyd fasnachol newydd i barhau i allu casglu gan y preswylwyr hyn yn unol â’r ddeddfwriaeth.
- Casgliad uniongyrchol o fagiau cwad: I'r rhai sy'n derbyn casgliad ar garreg y drws ond sy'n cynhyrchu llai o wastraff, megis cartrefi person sengl a phreswylwyr hŷn, mae criwiau casglu yn adalw deunyddiau ailgylchadwy yn uniongyrchol o'r bagiau cwad, gan ddileu'r angen i gyflwyno'r holl gynwysyddion. Roedd yr addasiad hwn yn gwella mynediad at ofynion ailgylchu ac yn gwneud y bagiau amldro mor ddefnyddiol â phosibl.
- Ymgysylltu helaeth: Arweiniodd Ymgynghorwyr Amgylchedd ymgyrch ragweithiol o guro ar ddrysau, dosbarthu bagiau cwad neu offer ailgylchu ar garreg y drws, ac ymgysylltu'n uniongyrchol â phreswylwyr i egluro'r newidiadau a chefnogi ymddygiad ailgylchu cywir. Buont hefyd yn ymgysylltu â landlordiaid i asesu mannau storio biniau cymunedol ac awgrymu gwelliannau i hwyluso casglu ffrydiau gwastraff ar wahân.
Effaith
Mae dull ymaddasol Cyngor Sir Penfro wedi sicrhau manteision amgylcheddol, gweithredol a chymdeithasol sylweddol:
- Cynnal arweinyddiaeth mewn ailgylchu: Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru am ailgylchu, ar hyn o bryd yn cyflawni cyfradd ailgylchu o 72% ac yn dangos ei ymrwymiad i ragori ar dargedau'r dyfodol.
- Mwy o gyfranogiad: Drwy fynd i'r afael â heriau o ran gofod a hygyrchedd, mae'r Cyngor wedi gwneud ailgylchu'n fwy cynhwysol a chyfleus, gan feithrin mwy o ymgysylltiad a chydweithrediad cymunedol.
- Gwell ymddiriedaeth ac ymwybyddiaeth gyhoeddus: Mae ymgysylltu ymarferol yn golygu bod preswylwyr yn teimlo'n fwy gwybodus ac yn cael eu cefnogi, gan roi hwb i hyder y cyhoedd yng ngwasanaethau gwastraff y Cyngor.
- Mwy o effeithlonrwydd gweithredol: Mae'r newid hwn yn caniatáu i gasgliadau gael eu gwasanaethu naill ai gan gerbydau casglu gwastraff masnachol neu gerbydau ailgylchu domestig ar garreg y drws. Mae hyn yn symleiddio'r fethodoleg casglu ac yn caniatáu i'r deunydd gael ei brosesu yn unol â gweddill y sir yn yr orsaf trosglwyddo gwastraff bwrpasol.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi dangos bod hyblygrwydd ac ymgysylltu’n allweddol i sicrhau effeithiolrwydd wrth ddarparu gwasanaethau casglu ailgylchu.