8 Gorffennaf 2025 Astudiaeth Achos

Cewynnau a nwyddau mislif amldro ym Merthyr Tydfil

Problem

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae mwy na 25,000 tunnell o gewynnau tafladwy a nwyddau mislif yn cael eu hanfon i'w gwaredu, gyda phob aelwyd ar gyfartaledd yn cyfrannu tua 30kg y flwyddyn. Ym Merthyr Tudful yn unig, mae hyn yn cyfateb i tua 850 tunnell o wastraff. 

Mae cewynnau a nwyddau hylendid amsugnol yn cyfrif am dros 9% o wastraff y cartref na ellir ei ailgylchu ym Merthyr Tudful. Ar gyfartaledd, mae un plentyn yn defnyddio rhwng 4,500 a 5,000 o gewynnau cyn dysgu defnyddio’r toiled, sy'n cyfateb i oddeutu 150 llond bag du o gewynnau fesul plentyn. 

Gan gydnabod yr heriau amgylcheddol ac economaidd hyn, gwelodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gyfle i leihau gwastraff a chefnogi preswylwyr i fabwysiadu dewisiadau amldro amgen. Drwy hyrwyddo'r defnydd o gewynnau y gellir eu hailddefnyddio a nwyddau mislif di-blastig, mae'r Cyngor yn anelu at ddargyfeirio gwastraff o waredu, lleihau costau cartrefi a normaleiddio dewisiadau cynaliadwy.

Ateb 

Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sawl menter ar waith i hyrwyddo cewynnau a nwyddau mislif amldro, gan dargedu hygyrchedd ac ymwybyddiaeth ymhlith preswylwyr.  

Hyrwyddo cewynnau amldro

Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sawl menter ar waith i hyrwyddo cewynnau a nwyddau mislif amldro, gan dargedu hygyrchedd ac ymwybyddiaeth ymhlith preswylwyr. 

Hyrwyddo cewynnau amldro

Er mwyn lleihau dibyniaeth ar gewynnau untro, ymunodd y Cyngor â'r elusen amgylcheddol Wastesavers i:

  • Darparu gwybodaeth hygyrch: Gall rhieni a gwarcheidwaid newydd gael mynediad at ganllawiau clir ar gewynnau amldro drwy wefan y Cyngor, sy'n amlinellu manteision ariannol, amgylcheddol ac iechyd.
  • Cefnogi llyfrgell “Cewynnau Go Iawn” leol: Mae'r Cyngor yn gweithio gyda chynllun dan arweiniad gwirfoddolwyr sy'n caniatáu i breswylwyr roi cynnig ar wahanol fathau o gewynnau amldro cyn ymrwymo i brynu.
  • Annog eu defnyddio drwy gymhellion: Gall preswylwyr gael mynediad at becynnau cewynnau amldro gyda chymhorthdal trwy'r Cynllun Cymhelliant Cewynnau Cenedlaethol.
  • Trefnu digwyddiadau ymgysylltu: Mewn partneriaeth â Wastesavers a'i Llyfrgell Cewynnau Go Iawn, gall teuluoedd fynychu sesiynau galw heibio misol mewn canolfan gymunedol leol i ddysgu mwy, a rhoddir cyflenwad am ddim o gewynnau amldro iddynt. Mae'r bartneriaeth hefyd yn cynnal stondin ym Marchnad Little Pickles yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful dair gwaith y flwyddyn; marchnadoedd ail-law yw'r rhain sydd wedi'u hanelu at deuluoedd beichiog, lle mae'r tîm yn addysgu ac yn hysbysu ymwelwyr am fanteision cewynnau amldro. Ac yn ystod digwyddiad blynyddol Wythnos Cewynnau Go Iawn, gwahoddir rhieni sydd wedi'u lleoli ym Merthyr Tudful i arddangosiadau a gweithdai i ddysgu mwy am y cynhyrchion hyn.

Lleihau gwastraff nwyddau mislif untro  

Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus “Carwch Eich Mislif, Carwch Eich Planed” ym mis Mawrth 2023, sicrhaodd y Cyngor gyllid ychwanegol gan Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru i gynyddu hygyrchedd. Galluogodd y cyllid hwn: 

  • Casgliadau nwyddau mislif amldro neu rai bambŵ am ddim: Galluogodd y grant i fenter bresennol y Cyngor ehangu, gan sicrhau bod nwyddau mislif di-blastig a/neu rai amldro’n parhau i fod ar gael yn eang, yn enwedig i'r rhai sy'n profi caledi ariannol.
  • Peiriannau nwyddau mislif: Defnyddiodd y Cyngor y cyllid i osod peiriannau nwyddau mislif yn nhoiledau'r ysgol, gan roi mynediad i fyfyrwyr at nwyddau amldro.
  • Pwyntiau casglu cymunedol: Mae rhwydwaith o bwyntiau dosbarthu lleol yn sicrhau bod y nwyddau amldro ar gael yn eang y tu hwnt i ysgolion.
  • Allgymorth addysgol: Derbyniodd ysgolion ymweliadau gan ymgyrchydd amgylcheddol, gan godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o fanteision nwyddau mislif amldro a sut i ofalu amdanynt a sut y dylai gwybodaeth fod ar gael mewn toiledau. 

Effaith

Mae hyrwyddo rhagweithiol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful o gewynnau a nwyddau mislif amldro - mewn partneriaeth â Wastesavers – wedi dwyn manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol, gan gynnwys:

  • Lleihau gwastraff tafladwy: Gostyngiad amlwg yn nifer y clytiau untro ledled y sir.
  • Cynnydd mewn ymwybyddiaeth gyhoeddus am gewynnau 'go iawn': Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Llyfrgell Cewynnau Go Iawn wedi ymgysylltu â thua 60 o deuluoedd mewn digwyddiadau ac wedi rhoi 80 o gewynnau brethyn am ddim, gan arwain at fwy o ymwybyddiaeth o'r opsiynau cewynnau amldro sydd ar gael i rieni a gwarcheidwaid newydd.
  • Cefnogaeth i'r rhai mewn angen: Mae’r Llyfrgell Cewynnau Go Iawn yn darparu bwndeli o gewynnau brethyn am ddim yn rheolaidd i bantri bwyd mewn hybiau cymunedol lleol, gan wneud opsiynau amldro’n hygyrch i'r rhai nad ydynt yn gallu prynu nwyddau.
  • Mynediad cynyddol at nwyddau mislif amldro: Yn 2023, dosbarthodd y Cyngor nwyddau mislif y gellir eu hailddefnyddio i 28 o ysgolion a 21 o sefydliadau cymunedol, gan sicrhau mynediad i lawer.
  • Arbedion cost i breswylwyr: Gwelodd preswylwyr a newidiodd i nwyddau mislif y gellir eu hailddefnyddio eu bod yn gwneud arbedion sylweddol, ar ôl cael yr eitemau am ddim. 

Mae hyrwyddo cewynnau amldro yn rhagweithiol, ynghyd â defnyddio’r Grant Urddas Mislif yn effeithiol, wedi arwain at fanteision i'r Cyngor a'i breswylwyr.

Diweddariad 2025

Yn fwy diweddar, yn 2025, gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Wastesavers hefyd:

  • Mynychu Grwpiau Babanod yng Nghanolfan Llesiant Gellideg a darparu cewynnau amldro ar gyfer y Pantri Cymunedol (banciau bwyd).
  • Siarad â rhieni mewn digwyddiadau Clwb Dwylo Hapus ar gyfer babanod a phlant bach yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan a'r Parth Chwarae yn archfarchnad Trago Mills.

Ym mis Tachwedd 2025, bydd y bartneriaeth hefyd yn mynychu dosbarthiadau Tylino Babanod a Ioga Babanod Cymraeg i Blant a gynhelir ledled y sir mewn pedwar ardal wahanol ac yn siarad â theuluoedd am sut y gallant arbed arian a gwella eu hôl troed carbon trwy newid o gewynnau tafladwy i gynhyrchion amldro.