8 Gorffennaf 2025 Astudiaeth Achos

Cyfathrebu newidiadau gwasanaeth casglu gwastraff yng Nghaerdydd yn effeithiol

Problem

Ers i’r targed ailgylchu cenedlaethol gynyddu i 64% yn 2019/20, mae Cyngor Caerdydd wedi’i chael yn anodd bodloni disgwyliadau perfformiad. Erbyn 2021/22, Caerdydd oedd â’r gyfradd ailgylchu isaf yng Nghymru, gan gyflawni dim ond 58%, ymhell islaw’r targed o 70% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  

Yn ogystal, roedd dros 30% o'r deunydd yn y ffrwd ailgylchu cymysg yn halogiad, yn golygu na ellid ei ailgylchu'n effeithiol. Gan fethu â chyrraedd targedau cenedlaethol ac yn wynebu cyfraddau halogi uchel a oedd yn bygwth ansawdd deunyddiau ailgylchu gwerthfawr, cydnabu'r Cyngor fod angen gweithredu ar unwaith i wella ei berfformiad ailgylchu. 

Ateb 

Er mwyn mynd i'r afael â'r mater dybryd o gyfraddau ailgylchu isel a halogiad, rhoddodd Cyngor Caerdydd newid gwasanaeth ar waith, yn canolbwyntio ar system gasglu aml-ffrwd. Nod y newid gwasanaeth oedd cynyddu ansawdd ailgylchu a chyrraedd targed ailgylchu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o 70% ar gyfer 2024/25 a’r uchelgais o fod yn ddiwastraff erbyn 2050.

Mewn treial a gynhaliwyd yn 2023, yn cynnwys 4,000 o aelwydydd, gwelwyd gostyngiad o 30% mewn halogiad i ddim ond 6% ar ôl i’r system gael ei chyflwyno. Wedi'i galonogi gan lwyddiant y treial, dechreuodd y Cyngor gyflwyno'r system gasglu aml-ffrwd ar draws y ddinas yn raddol.  

Nodwedd allweddol o’r newid gwasanaeth oedd hyrwyddo’r Ap Cardiff Gov, sy’n galluogi preswylwyr i:

  • wirio dyddiadau casglu ailgylchu a gwastraff, a gosod nodiadau atgoffa;
  • adrodd am gasgliadau a fethwyd;
  • trefnu casgliadau eitemau swmpus;
  • archebu ymweliadau â chanolfan ailgylchu;
  • chwilio canllaw ailgylchu A–Y am gyngor ar y ffordd orau o gael gwared ag eitemau o’r cartref; a
  • dod o hyd i stocwyr lleol neu ofyn i gael sachau a chadis casglu ailgylchu, a bagiau leinio cadis gwastraff bwyd wedi’u danfon.  

Er mwyn sicrhau llwyddiant y system, lansiodd y Cyngor hefyd ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus helaeth, gan ddosbarthu cyfres o ddeunyddiau addysgiadol a llawn gwybodaeth i breswylwyr ochr yn ochr â chynwysyddion ailgylchu newydd. Roedd y deunyddiau addysgol hyn yn cynnwys:

  • llythyr yn cyflwyno ac yn tynnu sylw at y newidiadau allweddol;
  • llyfryn gwybodaeth manwl yn egluro'r rhesymau am y newid, sut i gyflwyno'u gwastraff i’w ailgylchu a’u gwastraff na ellir ei ailgylchu yn gywir, a chyfres o Gwestiynau Cyffredin; a
  • taflen wybodaeth 'canllaw cyflym' yn dangos i breswylwyr 'beth sy'n mynd ble'.

Roedd y cynwysyddion newydd hefyd wedi'u labelu â chyfarwyddiadau ailgylchu clir, gan helpu i atgyfnerthu ymddygiadau ailgylchu cywir. Adleisiwyd y negeseuon mewn mannau cyhoeddus ar draws y ddinas, gydag arddangosiadau baneri a phosteri wedi'u gosod mewn mannau a reolir gan y Cyngor, megis swyddfeydd, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol. Nod y negeseuon a'r allfeydd a ddefnyddiwyd oedd egluro'r newidiadau, ac fe gawsant eu hamseru i gyd-fynd â phob cam cyflwyno.

Fel rhan o'r gwaith o gyflwyno’r newidiadau, bu criwiau casglu hefyd yn gwirio cynwysyddion cyn llwytho deunyddiau ar y cerbydau casglu, gan wrthod unrhyw gynwysyddion halogedig i roi adborth gwerthfawr i breswylwyr.   

Effaith

Mae cyflwyno a chyfathrebu system gasgliadau aml-ffrwd Cyngor Caerdydd wedi cael effaith drawsnewidiol ar ymdrechion ailgylchu’r sir:  

  • Lleihad mewn halogiad: Gostyngodd y gyfradd halogi o ddeunyddiau ailgylchadwy o 30% i ddim ond 10%.
  • Gwell canlyniadau ailgylchu: mae 90% o’r ailgylchu a gesglir bellach yn cael ei ailgylchu'n llwyddiannus, o'i gymharu â 70% o dan y system flaenorol.
  • Cyfradd ailgylchu uwch: Cynyddodd cyfradd ailgylchu'r ddinas i 60%, gan wneud cynnydd amlwg tuag at gyrraedd y targedau cenedlaethol.
  • Gwell ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd: Mae preswylwyr wedi mabwysiadu ymddygiad ailgylchu mwy cyfrifol, gan ddangos gwell dealltwriaeth ac ymrwymiad i ailgylchu cywir.

Mae profiad y Cyngor yn dangos effeithiolrwydd cyfathrebu, addysg a gorfodi wrth gyflwyno newid gwasanaeth. Wrth i'r cynllun barhau i gael ei gyflwyno ar draws y sir, mae Cyngor Caerdydd yn dysgu ac yn nodi meysydd lle gellir gwneud gwelliannau pellach.