8 Gorffennaf 2025 Astudiaeth Achos

Rhesgompostio agored yn Sir y Fflint

Problem

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithredu Cyfleuster Rhesgompostio Agored ym Maes-glas ers 2001. Mae'r cyfleuster hwn yn prosesu gwastraff gardd organig, gan ei drawsnewid yn gyflyrydd pridd llawn maetholion. Mae'r Cyngor yn casglu'r math hwn o wastraff mewn Canolfannau Ailgylchu, gan y Gwasanaethau Cynnal a Chadw Tiroedd, yn ogystal ag o'i wasanaeth casglu gwastraff gardd ar garreg y drws ar draws y sir. Mae hefyd yn derbyn gwastraff gardd sy'n cael ei gasglu gan ei awdurdod cyfagos, Cyngor Sir Ddinbych. Mae hyn yn rhoi digon o borthiant i'r cyfleuster ac yn cadw gwastraff gardd allan o'r biniau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, gan helpu'r Cyngor i weithio tuag at gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru.  

Mae casgliadau gwastraff gardd yn parhau i fod yn wasanaeth y codir tâl amdano i breswylwyr Sir y Fflint, gan roi cyfle iddynt waredu eu gwastraff gardd yn gywir ar garreg y drws, am ffi fechan.  

Gyda llwyddiant y gwasanaeth sefydledig yn arwain at gynhyrchu symiau uchel o gyflyrydd pridd, nododd y Cyngor gyfle i roi yn ôl i'r gymuned.  

Ateb 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig cyfle i breswylwyr gael y cyflyrydd pridd a gynhyrchir gan gyfleuster Maes-glas, yn rhad ac am ddim, i'w ddefnyddio yn eu gerddi a'u rhandiroedd.  

  • Gall preswylwyr gasglu compost o’u Canolfan Ailgylchu agosaf: Mae'r Cyngor yn dosbarthu'r compost parod i'w ddefnyddio i bum Canolfan Ailgylchu yn Sir y Fflint, gan sicrhau mynediad hawdd at gyflyrydd pridd naturiol PAS100 i breswylwyr ar draws pob rhan o'r sir. Mae manyleb PAS100 a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig yn sicrhau bod y compost yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn perfformio'n dda.  
  • Mae’r compost yn gyfyngedig i breswylwyr Sir y Fflint: Mae angen i'r rhai sy'n casglu compost o'r Ganolfan Ailgylchu ddod â dogfen i brofi eu bod yn breswyl yn Sir y Fflint, gan sicrhau bod y Cyngor yn rhoi yn ôl i'w gymuned ei hun. Gall pob preswylydd gasglu'r cyflyrydd pridd, ni waeth a ydynt yn talu am gasgliadau gwastraff gardd ai peidio.  
  • Mae’r Cyngor yn rhedeg y fenter hon am gost isel: Mae'n ofynnol i unigolion sy'n casglu compost ddod â'u bagiau a'u rhawiau eu hunain i lwytho'r compost, gan leihau faint o adnoddau dynol a deunyddiau a ddarperir gan y Cyngor sydd eu hangen i ddarparu'r gwasanaeth hwn.  
  • Mae’r gwasanaeth yn dod â refeniw ychwanegol i mewn: Gan fod y cyfleuster compostio yn cynhyrchu llawer iawn o gyflyrydd pridd, mae hyn yn galluogi'r Cyngor i elwa o’r manteision o werthu'r gormodedd i'r sectorau garddwriaeth a thirlunio.  

Effaith

Mae gweithrediad y fenter darparu compost hon gan Gyngor Sir y Fflint wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol i’w wasanaeth ailgylchu gwastraff gardd:  

  • Mae nifer sylweddol o gartrefi yn Sir y Fflint wedi tanysgrifio i wasanaeth casglu gwastraff gardd y Cyngor: Mae nifer dda yn defnyddio’r gwasanaeth hwn yn Sir y Fflint, gyda 29,075 o danysgrifiadau wedi’u prynu ar gyfer tymor casglu 2024, gan sicrhau swm sylweddol o borthiant ar gyfer y cyfleuster compostio.  
  • Mae Sir y Fflint yn casglu 12,000 tunnell o wastraff gardd bob blwyddyn: Cesglir deunydd o gartrefi, Canolfannau Ailgylchu, ymylon ffyrdd, parciau, gerddi a ffynonellau allanol.  
  • Ar gyfartaledd, cynhyrchir 6,000 tunnell o gompost cyflyru pridd drwy gyfleuster Maes-glas bob blwyddyn: Mae'r swm helaeth hwn o ddeunydd o ansawdd uchel yn cael ei ddosbarthu i breswylwyr, cwmnïau garddwriaeth lleol a'r sector amaethyddol.  
  • Mae’r Cyngor yn dosbarthu’r compost yn rheolaidd i ysgolion lleol i gynorthwyo gyda gerddi ysgol: Mae dysgwyr yn Sir y Fflint yn cael budd o wahanu gwastraff gardd a chymryd rhan mewn ymddygiadau ailgylchu yn uniongyrchol.  

Drwy gynnig compost am ddim i breswylwyr o'i gyfleuster compostio lleol, mae Sir y Fflint wedi gwneud llawer iawn o ddeunydd organig yn ddefnyddiol drwy ei roi yn ôl i'r gymuned leol a dangos manteision ailddefnyddio gwastraff gardd.