8 Gorffennaf 2025 Astudiaeth Achos

Lleihau halogiad yng Ngheredigion gyda'i ganllaw ailgylchu A i Y

Problem

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod ymhlith yr awdurdodau lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran ailgylchu; mae’r sir wedi ailgylchu tua 70% o’r gwastraff y mae’n ei gasglu bob blwyddyn ers 2019/20. Fodd bynnag, er gwaethaf y perfformiad cryf hwn, roedd y Cyngor yn dal i dderbyn ymholiadau gan breswylwyr yn gofyn am eglurhad ynghylch pa ddeunyddiau y gellid eu rhoi yn eu bagiau ailgylchu.  

Daeth materion halogi i'r amlwg hefyd, yn enwedig mewn perthynas â phlastigion, wrth i breswylwyr ei chael yn anodd nodi pa eitemau y gellid eu hailgylchu. Ychwanegodd yr amrywiaeth cynyddol o ddeunyddiau pacio a'r defnydd eang o labeli 'ailgylchadwy' at y dryswch hwn, gan amlygu'r angen am wybodaeth gliriach a mwy hygyrch. Heb ganllawiau gwell, cynyddodd y risg o halogiad mewn ffrydiau ailgylchu, a allai effeithio ar ansawdd cyffredinol y deunydd.   

Ateb  

Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, lansiodd Cyngor Sir Ceredigion ganllaw ailgylchu A–Y manwl ar ei wefan yn 2015, a gynlluniwyd yn y lle cyntaf i helpu preswylwyr ar eu taith ailgylchu drwy ddarparu cyfarwyddiadau clir a phenodol ar gyfer pob deunydd. Mae'r canllaw yn rhestru eitemau a deunyddiau unigol, gan amlinellu opsiynau ar gyfer ailgylchu ac ailddefnyddio, boed hynny trwy gasgliadau ar garreg y drws, canolfannau ailgylchu, neu gynlluniau ailddefnyddio. Yn bwysig, mae'r canllaw hefyd yn amlinellu pa eitemau na ellir eu hailgylchu, gan felly helpu i leihau halogiad.  

Un o nodweddion allweddol y canllaw A–Y yw ei swyddogaeth chwilio, sy'n caniatáu i breswylwyr ddod o hyd i eitemau yn ôl y math o gynnyrch, gan ddileu'r angen i ddeall termau fel “deunydd pacio” neu wahaniaethu rhwng plastigion “anhyblyg” neu rai “caled”.  

Cynlluniwyd y canllaw i fod yn un y gellir ei addasu, gyda gwybodaeth yn cael ei diweddaru wrth i wasanaethau newid, a deunyddiau pacio newydd yn ymddangos.  

Law yn llaw â'r canllaw A–Y, mae'r Cyngor yn mynd ati i addysgu preswylwyr ynghylch arferion ailgylchu gorau trwy gyfrwng cylchlythyrau, y cyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu â'r gymuned. Trwy wneud gwybodaeth ailgylchu yn glir ac yn hygyrch, mae'r Cyngor yn annog preswylwyr i wella arferion gwahanu gwastraff, gan symleiddio'r broses ailgylchu a hybu cyfranogiad. 

Effaith

Mae'r ffocws gwell ar addysg ailgylchu a chyfathrebu wedi gwella mynediad preswylwyr at wybodaeth gywir, gan leihau dryswch a chefnogi ailgylchu o ansawdd gwell.

Yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23, llwyddodd Cyngor Sir Ceredigion i gynnal ei berfformiad ailgylchu cryf, gan gyflawni cyfradd ailgylchu o 70.3%, gan ddod yn 4ydd ymhlith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd hefyd yn un o ddim ond pedwar cyngor yn y wlad i ailddefnyddio, ailgylchu, neu gompostio dros 70% o'i wastraff y flwyddyn honno. Ers cyhoeddi'r canllaw, mae'r Cyngor hefyd wedi gweld lefelau halogi’n gostwng, gan wella ansawdd deunyddiau ailgylchadwy.  

Gan edrych i'r dyfodol, mae'r Cyngor yn bwriadu ehangu'r adnodd ar-lein i gynnwys strategaethau lleihau ac atal gwastraff, gan helpu preswylwyr nid yn unig i ailgylchu'n fwy effeithiol ond hefyd i leihau faint o wastraff y maen nhw’n ei gynhyrchu yn y lle cyntaf. Mae’r fenter hon yn cyd-fynd ag ymdrechion ehangach i symud ymhellach i fyny’r hierarchaeth wastraff, gan roi blaenoriaeth i leihau gwastraff yn unol ag argymhellion strategaeth Mwy nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at wneud yr Economi Gylchol yn realiti yng Nghymru.