Problem
Yn 2014/15, llwyddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ragori ar darged ailgylchu statudol Cymru, gan gyflawni cyfradd ailgylchu o 53.8%. Er bod hon yn garreg filltir arwyddocaol, gwelodd y Cyngor y cyfle i ddargyfeirio deunyddiau o wastraff gweddilliol ymhellach a chynyddu cyfraddau ailgylchu.
Amlygodd dadansoddiad o wastraff cartrefi fod cyfran sylweddol o gynnwys biniau gwastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu yn cynnwys deunyddiau y gellid eu hadennill, gan gynnwys cewynnau tafladwy a phadiau anymataliaeth. Fodd bynnag, heb ateb ailgylchu penodol, parhawyd i anfon yr eitemau hyn i safleoedd tirlenwi neu droi gwastraff yn ynni.
Ar yr un pryd, cyflwynodd y Cyngor gyfyngiad ar faint o wastraff na ellir ei ailgylchu y gallai preswylwyr ei roi allan i'w gasglu ar garreg y drws, gyda mesurau gorfodi i annog cydymffurfiaeth. At hynny, lansiwyd yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth 'Metals Matter' ym mis Tachwedd 2014, gan addysgu preswylwyr am ailgylchu deunydd pacio metel ac atgyfnerthu'r angen i breswylwyr wneud eu hymdrechion gorau i ailgylchu.
Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, roedd y potensial i ddargyfeirio hyd yn oed mwy o wastraff o finiau gwastraff na ellir ei ailgylchu yn parhau, gan ysgogi'r Cyngor i archwilio gwasanaethau casglu ychwanegol. Roedd agor NappiCycle, cyfleuster ailgylchu arloesol yng Nghymru sy'n arbenigo mewn prosesu cewynnau ail-law i’w troi’n ddeunyddiau gwerthfawr, yn gyfle i'r Cyngor gynyddu ei gyfraddau ailgylchu a sbarduno gwelliannau pellach mewn rheoli gwastraff.
Ateb
Yn 2014, rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gynllun casglu cewynnau a phadiau anymataliaeth ar waith i ddargyfeirio'r deunyddiau hyn o safleoedd tirlenwi a throi gwastraff yn ynni. Cyflwynwyd y gwasanaeth hwn law yn llaw â chyfyngiadau ar wastraff gweddilliol, gan sicrhau bod mwy o wahanu deunyddiau ailgylchadwy’n digwydd. Er mwyn cynyddu cyfranogiad, mae’r Cyngor yn cynnig:
- Sachau casglu rhad ac am ddim: Mae'r Cyngor yn darparu sachau porffor untro pwrpasol am ddim, gan sicrhau bod deunyddiau'n cael eu gwahanu, eu casglu a'u prosesu’n gywir.
- Casgliadau ar garreg y drws am ddim: Mae'r cynllun sachau porffor yn galluogi preswylwyr i ailgylchu cewynnau tafladwy a phadiau anymataliaeth ar garreg y drws bob wythnos.
- Cofrestru ar-lein yn hawdd: Gall preswylwyr gofrestru i ymuno â’r cynllun ar-lein yn hawdd, yna derbyn manylion eu diwrnod casglu a chyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno eu gwastraff yn gywir.
Effaith
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi bod yn arloeswr yn y maes hwn ac, ers 2014, mae’r cynllun wedi sicrhau llawer o fanteision amgylcheddol:
- Cynnydd sylweddol yn y gyfradd ailgylchu: Ar y cyd ag ymdrechion eraill, fe wnaeth rhoi casgliadau cewynnau ar waith arwain y Cyngor i gyflawni cyfradd ailgylchu o 64.4% yn 2016/17, cynnydd o dros 10% mewn tair blynedd.
- Amcangyfrifir bod 82 miliwn o gewynnau’n cael eu dargyfeirio o safleoedd tirlenwi a throi gwastraff yn ynni: Amcangyfrifir y gallai gymryd cannoedd o flynyddoedd i gewynnau dorri i lawr mewn safleoedd tirlenwi wrth allyrru methan a llygryddion eraill, sy'n cael ei osgoi gan breswylwyr sy'n defnyddio'r cynllun casglu hwn.
- Ailbrosesu i greu deunyddiau defnyddiol: Mae cewynnau wedi'u hailgylchu yn cael eu troi’n belenni plastig, a ddefnyddir mewn amrywiol ddiwydiannau, megis cynhyrchu asffalt, gan leihau'r angen am ddeunyddiau crai.
- Lefelau cyfranogiad uchel: Mae cyfleustra'r cynllun yn golygu bod tua 683,300 o gewynnau'n cael eu casglu bob mis, gan sicrhau cyflenwad cyson o borthiant i'w ailgylchu ac atgyfnerthu ymrwymiad preswylwyr i wahanu gwastraff.
Drwy gyfuno casgliadau ar wahân o nwyddau hylendid amsugnol ar garreg y drws â chyfyngiadau ar wastraff na ellir ei ailgylchu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo i gynyddu ei gyfradd ailgylchu a lleihau gwastraff tirlenwi. Mae ei wasanaeth casglu cewynnau hirsefydlog yn parhau i fod yn enghraifft o arfer gwastraff gorau yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan ddangos sut y gall cynlluniau casglu wedi'u targedu gyfrannu at berfformiad ailgylchu uwch a chynaliadwyedd amgylcheddol.