Problem
Dros 25 mlynedd yn ôl, sylwodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gynnydd yn nifer y nwyddau’r cartref y gellir eu hailddefnyddio sy'n cael eu taflu yn rhwydwaith y Cyngor o Ganolfannau Ailgylchu. Priodolwyd yr ymddygiad hwn i ffordd gynyddol 'dafladwy' o fyw a fabwysiadwyd gan nifer gynyddol o breswylwyr ar gyflog uwch yn y gymuned. Ar y pryd, roedd llawer o ddodrefn a nwyddau’r cartref yn cael eu gwaredu fel gwastraff, er gwaethaf y potensial i'w hailddefnyddio neu eu defnyddio at bwrpas newydd.
Gan gydnabod nad oedd yr holl breswylwyr yn y sefyllfa ariannol gryfach hon, nododd y Cyngor gyfle i ailddosbarthu'r adnoddau gwerthfawr hyn ar draws cymunedau. Nod y Cyngor oedd dargyfeirio eitemau a oedd yn gweithio o'r ffrwd wastraff a thrwy hynny gefnogi'r rhai ar incwm is.
Ateb
Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cydweithio â'r trydydd sector a'r sector preifat i ddarparu gwybodaeth ymarferol i breswylwyr gyda chymorth atgyweirio ac ailddefnyddio i hyrwyddo atal gwastraff, cefnogi'r gymuned ehangach a dargyfeirio eitemau o ffrydiau gwastraff yn effeithiol.
Mae’r prosiect blaenllaw, The Furniture Revival, yn elusen annibynnol a ddatblygwyd yn 1999 mewn partneriaeth â Groundwork Cymru. Mae The Furniture Revival yn cynnig:
- Casgliad am ddim ar gyfer dodrefn y gellir eu hailddefnyddio, eitemau trydanol bach, a nwyddau gwyn ar hyd a lled cymoedd De Cymru. Mae eitemau a gesglir yn cael eu glanhau, eu trwsio a'u profi cyn iddynt gael eu gwerthu yn ôl i'r gymuned am brisiau fforddiadwy.
- Aelodaeth o'r Reuse Network. Mae hyn yn galluogi'r prosiect i gael gafael ar nwyddau y gellir eu defnyddio ond sydd heb eu gwerthu gan fanwerthwyr a chynhyrchwyr, gan ddarparu eitemau fforddiadwy o ansawdd uchel i breswylwyr mewn angen.
- Darpariaeth danfon mewn ymateb brys ar welyau a dodrefn eraill o fewn cyfnod o 48 awr ar gyfer unigolion a theuluoedd sy’n cael eu hailgartrefu, gan weithio’n agos gyda chymdeithasau tai lleol ac elusennau.
- Hwb cymunedol, a ddatblygodd yn raddol fel rhan o’r siop. Mae’r hwb bellach yn cynnal Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili a Banc Bwyd Cwm Rhymni yn rheolaidd, gan ddarparu buddion cymdeithasol i’r gymuned.
Cydweithrediad mwy diweddar rhwng y Cyngor a Wastesavers yw siop ailddefnyddio newydd a agorodd yn 2022, ochr yn ochr â Chanolfan Ailgylchu bresennol Penallta. Mae Siop Ailddefnyddio Penallta yn ehangu ymhellach ar yr hyn a gynigir i breswylwyr i’w ailddefnyddio a’i atgyweirio trwy:
- Mynd ag eitemau o Ganolfannau Ailgylchu, ynghyd â derbyn rhoddion gan breswylwyr yn uniongyrchol.
- Rhaglen ailgylchu sy'n darparu sgiliau newydd, cymorth cyflogaeth, a chyfleoedd gwirfoddoli i breswylwyr, gan dargedu llinell waelod driphlyg o gynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd trwy bartneriaeth gyda'r elusen leol Growing Space, a sefydlwyd yn 2022.
- Datblygu sgiliau cynaliadwy, gyda chyfranogwyr a gwirfoddolwyr yn cael eu dysgu sut i uwchgylchu eitemau’r cartref y byddai angen eu gwaredu fel arall.
- Cefnogi preswylwyr yn ystod yr argyfwng costau byw drwy werthu eitemau cartref o safon am brisiau hygyrch.
Effaith
Gwelir The Furniture Revival fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ailddefnyddio dodrefn yng Nghymru. Mae'r prosiect yn chwarae rhan fawr mewn dargyfeirio deunydd o'r ffrwd wastraff ac mae’n cynnig ased cymunedol gwerthfawr i breswylwyr.
Gyda llawer o lwyddiannau ers 1999, mae ffigurau diweddar yn dangos ei gyfraniad aruthrol fel menter ailddefnyddio leol. Rhwng Ebrill 2024 ac Ionawr 2025, mae The Furniture Revival wedi:
- Gwasanaethu 6,068 o unigolion yn y gymuned a darparu 3,302.7 o oriau gwirfoddolwyr.
- Llwyddo i atal dros 202 tunnell o ddodrefn ac eitemau trydanol rhag mynd yn wastraff.
- Hwyluso rhoddi 13,484 o eitemau ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio o 1,972 o gartrefi, ac mae 4,059 o gwsmeriaid wedi prynu eitemau.
Ers ei hagor, mae Siop Ailddefnyddio Penallta hefyd wedi esgor ar fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol i breswylwyr Caerffili a’r Cyngor gan gynnwys:
- Dargyfeirio 115 tunnell o eitemau o'r ffrwd wastraff yn ei flwyddyn gyntaf ar agor, gan wthio eitemau i fyny'r hierarchaeth wastraff. Yn 2024, adroddwyd bod y siop yn dargyfeirio tua 3,000kg o eitemau rhag cael eu gwaredu bob mis.
- Sefydlu ei hun fel y siop ailddefnyddio a berfformiodd orau yn 2024 o blith y rhai a weithredir gan Wastesavers o ran dargyfeirio eitemau o’r ffrwd wastraff, gyda chyfartaledd o 550 o eitemau’n cael eu dargyfeirio bob wythnos.
Mae darpariaethau atgyweirio ac ailddefnyddio'r Cyngor yn dangos sut y gall eitemau barhau i gael eu defnyddio am gyfnod hwy, gan atal tunelli o wastraff drwy bartneriaethau gwaith effeithiol, ac maent yn enghraifft wirioneddol o economi gylchol ar waith. Yn ogystal ag effaith amgylcheddol gadarnhaol y ddau brosiect hyn, mae'n bwysig cydnabod y manteision cymdeithasol. Mae ailddefnyddio ac atgyweirio yn meithrin ymdeimlad o gymuned, gan annog diwylliant o gynaliadwyedd, a darparu opsiynau fforddiadwy i'r rhai mewn angen, a thrwy hynny hyrwyddo tegwch cymdeithasol.