Problem
Ym mis Mehefin 2024, cyflwynodd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) newidiadau i'w gasgliadau ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu i'w gwneud hi'n haws i drigolion ailgylchu o gartref, ac i wella ansawdd y deunyddiau ailgylchadwy a gesglir. Symudodd casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu o bob pythefnos i bob pedair wythnos, ac mae ailgylchu, sy'n cael ei gasglu bob wythnos, bellach yn cael ei gasglu trwy system wahanu Trolibocs a bagiau amldro, yn unol â Glasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru.
Tynnodd adolygiad o ddata gwastraff sylw at gyfle ailgylchu allweddol a gollwyd: yn 2023/24, dim ond 154 o dunelli o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) a gasglodd y Cyngor, a oedd yn is nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru. Felly, roedd y newidiadau i'w gasgliadau ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu yn gyfle i gynyddu faint o sWEEE sy'n cael ei gasglu a'i ailgylchu trwy wasanaeth casglu ymyl y ffordd wythnosol pwrpasol.
Ateb
Er mwyn gwneud ailgylchu sWEEE mor hawdd a chyfleus â phosibl, cyflwynodd Cyngor Sir Dinbych ddull casglu syml:
- Dull syml o’i gyflwyno: Mae preswylwyr yn rhoi sWEEE – fel peiriannau eillio trydan, sychwyr gwallt, heyrn, tegelli, tŵls trydan a thostwyr – ar ben eu Trolibocs neu eu bag amldro ar eu diwrnod casglu.
- Gwaredu e-sigaréts a fêps yn ddiogel: Mae trigolion yn rhoi'r eitemau hyn mewn bag plastig untro clir, ar wahân i fatris o’r cartref, yna'n rhoi'r bag wrth ymyl eu cynwysyddion ailgylchu eraill ar eu diwrnod casglu, sy’n sicrhau eu bod yn cael eu trin yn ddiogel a lleihau'r risgiau tân.
Drwy integreiddio'r casgliad i drefn ailgylchu bresennol, mae'r Cyngor wedi ei gwneud mor hawdd â phosibl i drigolion ailgylchu eu sWEEE, gan gynyddu cyfranogiad ac adfer deunyddiau.
Effaith
Er mai dim ond ers ychydig dros flwyddyn y mae gwasanaeth casglu sWEEE Cyngor Sir Dinbych wedi bod ar waith, mae eisoes wedi darparu'r manteision canlynol:
- Dargyfeirio o wastraff gweddilliol: Mae llai o sWEEE bellach yn ymddangos mewn bagiau neu finiau ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, sy'n golygu bod mwy o'r deunyddiau gwerthfawr hyn yn cael eu dargyfeirio'n iawn yn hytrach na'u hanfon i safle tirlenwi neu losgi.
- Cynnydd yn ymwybyddiaeth y cyhoedd: Roedd y gwasanaeth casglu yn gyfle i addysgu trigolion am effaith amgylcheddol prynu eitemau trydanol ac electronig, a pherygl eu gwaredu’n anghywir.
- Gwell diogelwch rhag tân: Mae nifer y digwyddiadau tân wedi lleihau o ganlyniad i atal batris lithiwm-ion, sydd yn aml wedi'u cuddio y tu mewn i eitemau trydanol bach, rhag cyrraedd y ffrydiau deunydd anghywir.
Drwy’r casgliad ymyl y ffordd wythnosol, mae Cyngor Sir Dinbych wedi ei gwneud mor hawdd â phosibl i drigolion ailgylchu eu sWEEE, gan wella ailgylchu a lleihau peryglon tân.