8 Gorffennaf 2025 Astudiaeth Achos

Gwella cynaliadwyedd drwy ailddefnyddio ym Mlaenau Gwent

Problem

Yn 2021, cwblhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y gwaith o adeiladu Canolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu newydd Roseheyworth, a ffurfio partneriaeth â Wastesavers i agor siop ailddefnyddio ar y safle, o’r enw The Den.  

Er gwaethaf ymdrechion blaenorol i wella cyfraddau ailgylchu ac ailddefnyddio, roedd cyfran sylweddol o'r eitemau a ddygwyd i Ganolfannau Ailgylchu yn dal i gael eu taflu yn hytrach na'u hailddefnyddio. Datgelodd dadansoddiad o ffrydiau gwastraff y gallai llawer o eitemau’r cartref, megis dodrefn, teganau, llyfrau, ac offer trydanol bach, fod wedi cael eu hachub a'u hailddefnyddio yn hytrach na'u hanfon i'w gwaredu. Yn ogystal, roedd diffyg system ailddefnyddio strwythuredig yn yr unig ganolfan amgen yn y Fro Newydd yn golygu mai cyfleoedd cyfyngedig oedd gan breswylwyr i roi eitemau diangen ond defnyddiadwy.

Roedd absenoldeb system ailddefnyddio strwythuredig yn y Canolfannau Ailgylchu presennol hefyd yn golygu mai cyfleoedd cyfyngedig oedd gan breswylwyr i roi eitemau dieisiau ond y gellid eu defnyddio, gan arwain at waredu diangen. 

Ateb

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent nifer o fesurau allweddol ar waith:

  • Cyflwyno fesul cam a hyrwyddo: Agorodd y Ganolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu ym mis Mai 2021, gyda lansiad meddal The Den ym mis Mehefin/Gorffennaf a lansiad swyddogol ym mis Awst 2021. Roedd cyhoeddusrwydd yn cynnwys gwefan y Cyngor, cyfrifon y cyfryngau cymdeithasol, Hybiau Cymunedol, a datganiadau i'r wasg, ynghyd ag ymgysylltiad ar y safle gan weithredwyr wedi’u hyfforddi.
  • Dyluniad strategol i’r safle: Dyluniodd y Cyngor Ganolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu Roseheyworth fel mai siop ailddefnyddio The Den yw'r cyfleuster cyntaf y daw preswylwyr ar ei draws, gan atgyfnerthu'r flaenoriaeth o ailddefnyddio yn hytrach na gwaredu (hyd yn oed cyn ailgylchu).
  • Hyfforddiant gweithwyr: Derbyniodd gweithwyr y safle hyfforddiant penodol i ofyn yn rhagweithiol i breswylwyr a ellid rhoi eu heitemau i’w hailddefnyddio yn hytrach na'u taflu, gan gynyddu’r cyfleoedd i ailddefnyddio.
  • Partneriaeth trydydd sector: Cynigiodd y Cyngor dendr am bartner trydydd sector i reoli gweithrediadau ailddefnyddio, gan ddewis Wastesavers, sydd â blynyddoedd o brofiad o weithredu prosiectau tebyg yn llwyddiannus ledled Cymru.  
  • Gweithrediadau’r siop ailddefnyddio: Mae eitemau a roddir gan breswylwyr yn cael eu harchwilio ar y safle i'w hailwerthu, ac mae nwyddau trydanol yn cael prawf PAT cyn eu gwerthu. Mae The Den hefyd yn cynnal hyrwyddiadau cymunedol wedi'u targedu, megis ymgyrchoedd gwisg ysgol, gwerthu gwisgoedd prom, gwerthu teganau adeg y Nadolig, ac mae wedi rhoi cefnogaeth i ffoaduriaid o Wcráin a phreswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd. 

Effaith

Mae cyflwyno siop ailddefnyddio The Den wedi sicrhau manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac ariannol nodedig.

  • Gostyngiad mewn dibyniaeth ar dirlenwi: Ym mis Chwefror 2025, mae 347 tunnell o nwyddau wedi'u dargyfeirio rhag cael eu gwaredu a'u hailwerthu ers i The Den agor yn 2021, gan ostwng costau gwaredu gwastraff i'r Cyngor.
  • Buddiannau cymunedol: Mae'r siop yn darparu nwyddau fforddiadwy, gan helpu preswylwyr sydd ar incwm isel, gan hyrwyddo egwyddorion economi gylchol ar yr un pryd.
  • Uwchsgilio’r gymuned: Mae unigolion lleol yn cael eu hyfforddi trwy'r rhaglen wirfoddoli mewn amgylchedd sy'n hybu cynhwysiant cymdeithasol a chyfleoedd cyflogaeth.
  • Gweithrediad cost-niwtral: Y Cyngor sy'n darparu'r uned a chostau gorbenion, ac mae Wastesavers yn cyflogi ac yn talu’r staff, gan sicrhau cynaliadwyedd ariannol.
  • Ceir adborth cadarnhaol gan y cyhoedd, gydag ymgysylltiad cryf trwy dudalen Facebook The Den a rhyngweithiadau personol.

Drwy ymgorffori ailddefnyddio yn y strategaeth dylunio safleoedd, gweithrediadau ac ymgysylltu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi creu model llwyddiannus, hunangynhaliol y gellir ei ailadrodd ar draws awdurdodau lleol eraill. Mae'r achos hwn yn dangos gwerth integreiddio cyfleusterau ailddefnyddio, ochr yn ochr â chyfleusterau ailgylchu sy'n arwain at Ganolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu, i gefnogi nodau cynaliadwyedd a lleihau gwastraff.