Problem
Mae rheoli gwastraff ac ailgylchu mewn fflatiau a llety myfyrwyr yn cyflwyno heriau unigryw, oherwydd y nifer uchel o breswylwyr, poblogaethau dros dro, a lle cyfyngedig. Gan gydnabod hyn, aeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ati i weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam i wella rheoli gwastraff a hyrwyddo arferion cynaliadwy ymhlith myfyrwyr.
Dechreuodd y cydweithio rhwng swyddogion strategaeth gwastraff y Cyngor a staff cyfleusterau'r Brifysgol ym mis Ionawr 2023 ac mae'n parhau i ffynnu. Mae’r cynllun yn cefnogi myfyrwyr sy'n byw ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam, cyfadeilad llety prifysgol gyda 321 o ystafelloedd a 47 o geginau.
Nod y fenter oedd cynyddu ailgylchu gwastraff bwyd, lleihau halogiad mewn biniau ailgylchu cymunedol, a gwella ymgysylltiad myfyrwyr ag arferion gwastraff cynaliadwy. Trwy ddarparu seilwaith wedi'i dargedu, cyfathrebu clir, ac ymgysylltu parhaus, fe wnaeth y cydweithio rhwng y Cyngor a'r brifysgol eu galluogi i greu system casglu ailgylchu mwy effeithiol a hawdd ei defnyddio.
Ateb
Trwy eu cydweithio, rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phrifysgol Wrecsam nifer o fesurau allweddol ar waith i leihau halogiad, cynyddu cyfranogiad, a symleiddio ailgylchu i fyfyrwyr.
Er mwyn hwyluso gwahanu gwastraff bwyd o wastraff na ellir ei ailgylchu, cyflwynodd y Cyngor gasgliadau ailgylchu gwastraff bwyd ar draws Pentref Myfyrwyr Wrecsam, gan ddarparu 47 cadi cegin a rholiau o fagiau leinio i sicrhau bod gan bob cegin y seilwaith angenrheidiol. Yn ogystal, prynodd tîm cyfleusterau'r Brifysgol gynwysyddion ailgylchu y gellir eu pentyrru, gan alluogi myfyrwyr i ddidoli deunyddiau ailgylchadwy sych yn fwy effeithiol o fewn eu ceginau a rennir.
Er mwyn mynd i'r afael â halogiad, disodlwyd 10 o finiau ailgylchu allanol 1,100-litr gyda modelau â chaeadau gwrthdro wedi'u hailwampio. Mae'r rhain yn cyfyngu ar waredu eitemau mawr anghywir, fel bagiau du wedi'u llenwi neu wastraff heb ei ddidoli, gan helpu i wella ansawdd ailgylchu. Mae'r dyluniad yn helpu i atal defnyddwyr rhag gorfodi caeadau ar agor i ychwanegu eitemau anghydnaws o wastraff na ellir ei ailgylchu.
Ategwyd y newidiadau hyn gan ganllawiau gweledol clir; posteri yn y ceginau i gyd-fynd â lliwiau’r biniau mewnol sydd â chod lliw, ac roedd arwyddion a sticeri wedi’u diweddaru’n ei gwneud yn haws gwahaniaethu rhwng biniau ailgylchu a biniau gwastraff na ellir ei ailgylchu yn yr ardal storio allanol.
Yn flaenorol, roedd biniau gwastraff na ellir ei ailgylchu wedi'u hailwampio o fod yn finiau 1,100-litr safonol i'r rhai â nodwedd “caead o fewn caead”, er mwyn lleihau sbwriel a achosir gan adar yn mynd i mewn i finiau agored. Roedd hyn yn helpu i gynnal glanweithdra yn y compownd.
Er mwyn hyrwyddo ymgysylltiad â myfyrwyr, fe wnaeth swyddogion strategaeth gwastraff y Cyngor fynychu cyfres o ddigwyddiadau ‘Thrifty Business’ a gynhaliwyd ym mar Undeb y Myfyrwyr. Hyrwyddwyd y sesiynau hyn yn hyrwyddo cynaliadwyedd trwy gynnig bwyd dros ben, eitemau ar gyfer y cartref a gafodd eu cyfrannu, a dillad am ddim i'r rhai sy'n mynychu. Defnyddiodd swyddogion y sesiynau i rannu cyngor gyda myfyrwyr mewn llety prifysgol a llety preifat, gan esbonio sut i ddefnyddio eu systemau gwastraff bwyd ac ailgylchu sych yn effeithiol. Dosbarthwyd cadis gwastraff bwyd a bagiau leinio compostadwy, bagiau glas amldro ar gyfer ailgylchu cardbord a phapur, a gwybodaeth am ble i gasglu nwyddau newydd yn lleol.
Yn dilyn y digwyddiadau hyn, cafodd Caffi Trwsio Cymru wahoddiad gan Undeb y Myfyrwyr i gymryd rhan, gan atgyfnerthu negeseuon yr ymgyrch ynghylch ailddefnyddio a lleihau gwastraff. Yn ystod “Wythnos Ewch yn Wyrdd”, dychwelodd y Cyngor gyda stondin wybodaeth i hyrwyddo ailgylchu ymhellach. Ochr yn ochr â hyn, aeth swyddogion y Cyngor a staff cyfleusterau i ymweld â cheginau cymunedol i weld sut roedd y cynwysyddion ailgylchu dan do yn cael eu defnyddio a rhoi cyngor wyneb yn wyneb.
O fis Ebrill 2025, bydd myfyrwyr sy'n cyrraedd ag arian yn brin ganddynt yn cael cynnig “bocsys benthyg”, sy'n cynnwys offer cegin cyffredin o ansawdd uchel. Bydd pob bocs yn cynnwys offer mesur a chardiau ryseitiau wedi'u cynllunio i leihau gwastraff bwyd, a thrwy hynny gefnogi byw'n gynaliadwy ac osgoi gwastraff diangen ar ddiwedd y tymor.
Effaith
Mae adborth cynnar yn awgrymu newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad gwastraff, gan gynnwys:
- Mwy o ailgylchu gwastraff bwyd: mae pedwar o finiau 240-litr bellach yn cael eu defnyddio i gasglu gwastraff bwyd o lety myfyrwyr.
- Llai o halogiad a deunyddiau ailgylchadwy o ansawdd uwch: oherwydd y system caead gwrthdro ar finiau cymunedol.
- Mwy o ymwybyddiaeth a chyfranogiad gan fyfyrwyr: wedi’i sbarduno gan ymgysylltu uniongyrchol mewn digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr a'r defnydd o ddeunyddiau cyfathrebu wedi'u teilwra.
- Buddion cynaliadwyedd hirdymor: gydag Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi mentrau ailddefnyddio ac atgyweirio, a threialon pellach ar y gweill i leihau'r gwastraff a gynhyrchir.
- Gwell estheteg yn yr ardaloedd storio biniau cymunedol: wedi’i sbarduno gan gynwysyddion wedi'u diweddaru, arwyddion a labeli biniau.
Trwy arddel dull cydweithredol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phrifysgol Wrecsam wedi creu model ymarferol y gellir cynyddu ei raddfa ar gyfer gwella ailgylchu mewn llety myfyrwyr. Bydd y fenter hon yn un barhaus oherwydd natur fyrhoedlog y myfyrwyr sy'n byw yno bob blwyddyn academaidd. Mae llwyddiant y mesurau hyn yn amlygu pwysigrwydd seilwaith wedi'i dargedu, cyfathrebu clir, ac ymgysylltiad parhaus â myfyrwyr wrth greu amgylcheddau byw mwy cynaliadwy.