8 Gorffennaf 2025 Astudiaeth Achos

Mentrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i hyrwyddo atgyweirio ac ailddefnyddio

Problem

I gefnogi trawsnewidiad Cymru i economi gylchol, ac mewn ymateb i ddeddfwriaeth genedlaethol, megis Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, Cynllun y Sector Trefol, a'r strategaeth Mwy nag Ailgylchu, cydnabu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr angen i wneud mwy nag ailgylchu drwy annog atgyweirio ac ailddefnyddio. Er bod ailgylchu’n chwarae rhan hanfodol mewn rheoli gwastraff, mae atal gwastraff wrth y ffynhonnell trwy ailddefnyddio ac atgyweirio yn cynnig manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ehangach.

Mae Strategaeth Carbon Sero Net 2030 fewnol y Cyngor, a gyhoeddwyd yn dilyn datganiad argyfwng hinsawdd y Cyngor yn 2020, yn amlinellu nodau allweddol sy'n gysylltiedig â gwastraff. Mae'r rhain yn cynnwys lleihau faint o wastraff aiff i safleoedd tirlenwi, cynyddu ailddefnyddio ac ailgylchu, gwreiddio caffael nwyddau wedi'u hailddefnyddio/eu hailgynhyrchu, a gweithio gyda chymunedau i hyrwyddo newid ymddygiad.  

Un rhwystr mawr i fanteisio ar hyn oedd gwelededd a hygyrchedd opsiynau atgyweirio ac ailddefnyddio lleol. Nid oedd llawer o breswylwyr yn ymwybodol o wasanaethau a allai helpu i ymestyn oes eitemau’r cartref. Mewn ymateb, rhoddodd y Cyngor flaenoriaeth i gyfeirio at gyfleoedd lleol ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio i helpu preswylwyr leihau gwastraff a gwneud dewisiadau mwy cynaliadwy. 

Ateb 

Er mwyn gwneud gwasanaethau atgyweirio ac ailddefnyddio yn fwy hygyrch, cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sawl menter cyfeirio, gan gynnwys: 

  • Siopau ailddefnyddio mewn canolfannau ailgylchu cymunedol: Mae ailddefnyddio wedi'i ymgorffori yng nghontract gwastraff y Cyngor ers 2010. Mae siopau yng Nghanolfannau Ailddefnyddio ac Ailgylchu Maesteg a'r Pîl, a gaiff eu rhedeg gyda Groundwork Cymru, yn gwerthu dodrefn i’r cartref, offer trydanol, teganau ac eitemau eraill am brisiau isel. Mae staff yn asesu gwastraff swmpus i weld a yw'n addas ar gyfer ei ailwerthu cyn i eitemau fynd i'r siop.
  • Cynllun Podiau Gweithgaredd: Mae rhai eitemau o Ganolfannau Ailddefnyddio ac Ailgylchu’n cael eu dargyfeirio i ysgolion cynradd lleol i'w hailddefnyddio at ddibenion chwarae drwy raglen Pod Gweithgareddau'r Cyngor. Mae ethos y Pod Gweithgareddau yn seiliedig ar y gred bod chwarae yn hollbwysig i blant a’i fod yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad sgiliau corfforol, cymdeithasol, emosiynol a chreadigol. Yn 2024, mae 12 ysgol yn cymryd rhan weithredol yn y cynllun, gan dderbyn eitemau fel ffonau a hambyrddau i gefnogi chwarae dychmygus.
  • Hyrwyddo’r caffi atgyweirio: Mae'r Cyngor yn cyfeirio preswylwyr yn weithredol at gaffis atgyweirio lleol, fel Caffi Atgyweirio Bryncethin ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle gall preswylwyr ddod ag eitemau sydd wedi torri i'w trwsio gan wirfoddolwyr. Caiff digwyddiadau eu hyrwyddo drwy sianeli'r Cyngor.
  • Partneriaethau ailddefnyddio:  Mae contractwr gwastraff y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Gladstone Books, JMP Wilcox, Lifecycle Oils, Toys 4 Life, ac eraill i ailddefnyddio llyfrau, tecstilau, olew coginio, teganau, a photeli nwy a gesglir mewn Canolfannau Ailddefnyddio ac Ailgylchu.
  • Cyfeiriaduron ar-lein a chysylltiadau elusennol: Mae gwefan y Cyngor yn hyrwyddo gwasanaethau ailddefnyddio ac atgyweirio, gan gynnwys y Cyfeiriadur Atgyweirio ac elusennau fel y British Heart Foundation, Emmaus, ac Ambiwlans Awyr Cymru, sydd oll yn cynnig gwasanaethau casglu lleol.
  • Hysbysebu a chyfryngau digidol: Caiff cyfeirio ymlaen ei ehangu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, hysbysebion digidol, cynnwys gwefannau, bwletinau staff/preswylwyr, a radio lleol.
  • Addysg ac ymgysylltu ag ysgolion: Mae'r Cyngor yn comisiynu Hyfforddiant Ailgylchu a Diogelwch ADA i gyflwyno gweithdai ar thema ailddefnyddio i 10 ysgol yn flynyddol. Mae hefyd yn gweithio gydag ysgolion drwy ddigwyddiadau ymgysylltu, fel teithiau o amgylch safle Canolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu’r Pîl ac ymgyrchoedd posteri cyn i’r safle agor, a thrwy fentrau allgymorth ehangach, fel prosiect Caru Cymru gan Cadwch Gymru'n Daclus.
  • Allgymorth addysg a gorfodi: Mae tîm o bedwar swyddog yn cefnogi preswylwyr drwy gynnal digwyddiadau a churo ar ddrysau, gan annog ymddygiad gwastraff cyfrifol a helpu aelwydydd i ymgysylltu â gwasanaethau ailddefnyddio. 

Effaith

Mae dull Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o gyfeirio at wasanaethau atgyweirio ac ailddefnyddio eisoes wedi darparu amrywiaeth o fuddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd: 

  • Dargyfeirio gwastraff: Ar ôl i siop ailddefnyddio’r Pîl agor, cafodd chwe thunnell o eitemau eu dargyfeirio o safleoedd tirlenwi mewn un mis yn 2023/24.
  • Lleihau gwastraff: Rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2024, gostyngodd y gwastraff gweddilliol a gasglwyd ar garreg y drws, trwy Ganolfannau Ailddefnyddio ac Ailgylchu, a ffrydiau gwastraff swmpus gan dros 1,300 tunnell.
  • Ymgysylltu ag ysgolion a'r gymuned: Rhwng 2019 a 2023, cymerodd 34 o ysgolion ran ym mhrosiect sbwriel ac ailddefnyddio Caru Cymru. Mae partneriaid y prosiect wedi adrodd adborth cryf gan athrawon a disgyblion, ac mae llawer ohonynt wedi defnyddio'r mentrau i gefnogi eu gweithgareddau Eco-Sgolion.
  • Ymgysylltu â'r cyhoedd: Arweiniodd ymgyrchoedd fel Wythnos Ailgylchu gan Cymru yn Ailgylchu, a lansiad siop ailddefnyddio Canolfan Ailddefnyddio’r Pîl at gynnydd sydyn mewn traffig gwe a rhyngweithiadau cyfryngau cymdeithasol. 

Mae hyrwyddo atgyweirio ac ailddefnyddio wedi'i dargedu gan y Cyngor yn dangos sut y gall awdurdodau lleol gynyddu ymwybyddiaeth a chyfranogiad mewn mentrau economi gylchol. Mae'r gwaith hwn yn cefnogi targedau ailddefnyddio lleol a nodau cynaliadwyedd cenedlaethol, gan gyfrannu at gyfradd ailgylchu'r Cyngor o 73% yn 2023/24, yr uchaf yng Nghymru.