Mae'r canllawiau hyn wedi'u cynllunio i gefnogi swyddogion comisiynu, swyddogion caffael, a rheolwyr contractau i ymgorffori cynaliadwyedd mewn caffael gofal cymdeithasol mewn ffordd sy'n gyfreithlon, yn gymesur, ac yn seiliedig ar realiti cyflawni.
Mae'n darparu offer i helpu sefydliadau i drosi uchelgeisiau polisi yn benderfyniadau caffael ddyddiol. Mae'r canllawiau'n cydnabod cymhlethdod marchnadoedd gofal cymdeithasol ac yn cefnogi dull cytbwys, un sy'n hyrwyddo cyfrifoldeb amgylcheddol, gwerth cymdeithasol, a gwydnwch economaidd wrth gynnal ansawdd gofal a sefydlogrwydd y farchnad. Drwy alinio prosesau caffael â nodau cynaliadwyedd hirdymor, ei nod yw galluogi canlyniadau gwell i bobl, cymunedau, a darparwyr.
Lawrlwytho ffeiliau
-
Canllawiau Caffael Cynaliadwy mewn Gofal Cymdeithasol
PDF, 3 MB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.