Mae ein harolwg ôl-ymgyrch diweddaraf ar Bydd Wych. Ailgylchu. yn dangos faint o wahaniaeth y gall cyfathrebu perthnasol, cyson ei wneud wrth helpu pobl ledled Cymru i wastraffu llai o fwyd ac ailgylchu mwy.
Fe wnaeth yr arolwg, a gynhaliwyd gan WRAP, gyfweld 1,411 o oedolion ledled Cymru sydd â chyfrifoldeb dros ailgylchu yn eu cartrefi. Cafodd yr ymatebion eu pwysoli i sicrhau sampl gynrychioliadol yn ôl oedran, rhyw a rhanbarth. Mae hyn yn rhoi dirnadaethau cadarn inni ar sut mae ymddygiadau ailgylchu a gwastraffu bwyd yn newid ledled y wlad.
Bydd Wych. Ailgylchu. yw ymgyrch newid ymddygiad ailgylchu mwyaf a mwyaf effeithiol Cymru; fe’i cynhelir gan WRAP Cymru drwy'r brand Cymru yn Ailgylchu ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n chwarae rhan allweddol yn sbarduno siwrne’r genedl tuag at fod yn ddiwastraff erbyn 2050 a helpu i hybu Cymru tuag at safle rhif un yn y byd am ailgylchu.
Pam canolbwyntio ar wastraff bwyd?
Ers 2023, mae'r ymgyrch wedi canolbwyntio ar wastraff bwyd – dyma’r agwedd sydd â’r potensial i gael yr effaith fwyaf yng Nghymru: Bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyffredin yng Nghymru o hyd, a gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf ohono. (Dadansoddiad Cyfansoddiad o Wastraff Trefol yng Nghymru 2022).
Mae ein dull yn un arloesol, yn targedu dau ymddygiad drwy un ymgyrch: atal gwastraff bwyd ynghyd ag ailgylchu. Mae'n grymuso pobl i ddefnyddio'r holl fwyd maen nhw'n ei brynu gyda ryseitiau syml a hyblyg – gan arbed amser ac arian, gan sicrhau bod unrhyw beth na ellir ei fwyta yn cael ei ailgylchu i greu ynni adnewyddadwy.
Mae'r ymgyrchoedd bwyd wedi cael eu cyflwyno ar draws 5 rownd, gan drawsnewid yn raddol o ffocws ar ailgylchu yn unig ym mis Chwefror 2023 i ymgyrch atal gwastraff bwyd ac ailgylchu cwbl integredig. Mae pob rownd wedi datblygu ar wersi’r rownd flaenorol, gan ddod â chynnwys ffres i’r ymgyrch. Yn fwyaf diweddar, fideos sy'n canolbwyntio ar y teulu gan Joanna Page, i gadw sylw cynulleidfaoedd gan atgyfnerthu negeseuon cyson ac adeiladu momentwm.
Yr effaith yng Ngwanwyn 2025
Mae'r canlyniadau'n dangos bod yr ymgyrch yn hynod effeithiol, gan gyflawni newid ymddygiad cynaliadwy. Mae canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Cynnydd mewn cyfranogiad ailgylchu: Cynyddodd cyfranogiad mewn ailgylchu gwastraff bwyd cartrefi o 80% ym mis Mawrth 2024 i 86% ym mis Mawrth 2025, cynnydd sylweddol mewn dim ond un flwyddyn.
- Cyrhaeddiad ymgyrch eang: Ymgysylltodd dros hanner (51%) â'r ymgyrch, gyda chyrhaeddiad arbennig o uchel ymhlith grwpiau cynulleidfa allweddol, gan gynnwys oedolion ifanc (cyrhaeddwyd pobl 18-24: 69%, a 25-34: 74%) a theuluoedd â phlant gartref (cyrhaeddwyd 69%).
- Ymwybyddiaeth gref: Roedd 71% yn cofio gweld negeseuon am wastraff bwyd neu ailgylchu, gyda fideos a chynnwys cyfryngau cymdeithasol yn perfformio'n arbennig o dda.
- Newid ymddygiad clir: Gwnaeth bron i dri chwarter (74%) o’r rhai a welodd yr ymgyrch rywbeth yn wahanol – gwastraffu llai o fwyd, ailgylchu mwy, dechrau defnyddio eu gwasanaeth, neu daflu llai o fwyd i’r bin sbwriel.
- Effaith lle mae'n bwysicaf: Ymhlith y rhai a welodd yr ymgyrch, defnyddiodd 51% fwy o fwyd a allai fod wedi'i wastraffu, teimlai 71% yn fwy brwdfrydig dros ailgylchu gwastraff bwyd yn amlach neu'n fwy gofalus, dechreuodd 17% ddefnyddio eu gwasanaeth casglu gwastraff bwyd, a thaflodd 46% lai o fwyd i'r bin sbwriel.
Pam yr oedd yn gweithio
Llwyddodd yr ymgyrch oherwydd ei fod yn ystyriol o bwysau ac ysgogiadau bywyd go iawn, yn enwedig ymhlith oedolion iau a theuluoedd sy'n brin o amser. Drwy ganfod y man melys rhwng atal ac ailgylchu, defnyddiodd negeseuon a ddatblygwyd dan arweiniad y gynulleidfa, wedi’u cyflwyno drwy’r sianeli iawn i wneud i'r ymddygiadau deimlo'n syml, yn berthnasol, ac yn gyraeddadwy.
Er bod pedwar prif gymhwysedd yn berthnasol i daclo gwastraff bwyd – paratoi prydau bwyd, cynllunio, siopa, a storio – paratoi prydau bwyd yw'r foment ymddygiad allweddol lle mae atal ac ailgylchu'n dod at ei gilydd yn naturiol, felly daeth hyn yn ffocws i’r ymgyrch. Roedd yr ymgyrch yn ei gwneud hi'n hawdd i bobl wastraffu llai, ailgylchu mwy, a theimlo'r manteision yn eu bywydau beunyddiol. Roedd ryseitiau hyblyg a hawdd yn dangos sut i ddefnyddio'r holl fwyd a gaiff ei brynu (arbed amser ac arian), gan atgyfnerthu bod unrhyw beth na ellir ei fwyta yn perthyn i'r cadi gwastraff bwyd i gael ei ailgylchu'n ynni adnewyddadwy.
Pam roedd yr ymgyrch yn taro deuddeg:
- Cael yr ymddygiad yn iawn: Fe wnaeth cyflwyno paratoi prydau bwyd fel y foment allweddol helpu pobl gyfuno atal ac ailgylchu’n naturiol – coginio’n ddoeth i ddefnyddio bwyd ac ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta i greu pŵer.
- Ysgogiadau: Ymatebodd pobl i negeseuon ynghylch arbed arian, lleihau gwastraff, cynhyrchu ynni gwyrdd o'u gwastraff bwyd a helpu i gael Cymru i Rif 1.
- Perthnasedd: Cyrhaeddodd yr ymgyrch gynulleidfaoedd sydd dan bwysau amser – yn enwedig pobl 18–35 oed a theuluoedd gyda phlant, ac enillodd lwyddiant wrth fachu sylw ailgylchwyr presennol a’r rhai nad oeddent yn cymryd rhan o’r blaen.
- Straeon effaith clir: Fe wnaeth dangos sut mae gwastraff bwyd yn pweru cartrefi ledled Cymru, ynghyd â dangos pobl go iawn yn coginio prydau ysbrydoledig, arwain at feithrin ymddiriedaeth a chymhelliant.
- Momentwm trwy ailadrodd: Profodd yn hollbwysig cynnal ymgyrch dros sawl rownd – roedd pob cam yn adeiladu ar yr un blaenorol, gan atgyfnerthu ymddygiadau a chynyddu cyfranogiad a chymhelliant yn gyson dros amser.
Rhwystrau a chyfleoedd
Er bod yr ymgyrch wedi cyflawni'r canlyniadau cryfaf hyd yn hyn, mae heriau o hyd:
- Eglurder: Mae bron i hanner pobl (47%) yn dal yn ansicr beth sy'n digwydd i wastraff bwyd ar ôl ei gasglu.
- Canfyddiad ei fod yn annymunol: Mae tua un o bob pump (22%) yn teimlo bod ailgylchu bwyd yn "annymunol" – rhwystr ystyfnig y mae angen parhau i’w daclo. Er bod hyn yn rhywbeth nad yw’r ymgyrch yn ei daclo.
- Cynllunio: Y maes cymhwysedd sydd angen mwy o waith arno. Archwilio sut y gellir mynd i'r afael â hyn yn gynnil drwy'r ymgyrch.
- Cynulleidfaoedd: Parhau i dargedu'r cynulleidfaoedd allweddol sydd angen y gefnogaeth fwyaf: Oedolion ifanc, teuluoedd, a segmentau 6 a 7 WRAP.
Mae'r rhain yn parhau i fod yn gyfleoedd i ddatblygu arnynt yn rowndiau’r dyfodol, gan gadw momentwm yn uchel a chryfhau newid ymddygiad cadarnhaol.
Edrych ymlaen
Cafodd ymgyrch Mawrth 2025 sgôr uchel gan y rhai a ymgysylltodd ag ef, cyflawnodd gyrhaeddiad trawiadol, ac ysgogodd newidiadau mesuradwy mewn ymddygiad. Drwy gyfuno negeseuon cyson sy'n meithrin momentwm drwy bob rownd gyda chynnwys ffres, mae Bydd Wych. Ailgylcha. yn parhau i brofi y gall cyfathrebu perthnasol, parhaus, sy'n seiliedig ar ddirnadaethau, ysbrydoli newid go iawn a pharhaol, gan helpu Cymru ddod yn agosach fyth at ddod yn genedl ailgylchu orau’r byd.
Mynd â phethau i'r lefel nesaf: Bydd yr ymgyrch nesaf, a fydd yn cael ei gynnal o 22 Medi tan 19 Hydref, yn adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy barhau i ddatblygu ar y negeseuon a'r cynulleidfaoedd, gan hefyd ddyrchafu’r ymddygiad.
Gydag arferion ailgylchu wedi'u hymgorffori'n fwy cadarn, bydd y ffocws yn ehangu'n raddol i baratoi prydau bwyd yn ddoethach ac yn iachach – gan annog cynulleidfaoedd i baratoi prydau sylfaenol syml ymlaen llaw a'u haddasu drwy gydol yr wythnos.
Drwy ddangos pa mor hawdd yw creu prydau maethlon o ba bynnag gynhwysion sydd wrth law, byddwn yn helpu i hybu hyder mewn cynllunio ysgafn, atgyfnerthu manteision prydau i’w coginio unwaith a’u gweini sawl gwaith, a’i gwneud yn ail natur ailgylchu'r hyn na ellir ei fwyta.