Cymru yn Ailgylchu: Bydd Wych. Ailgylcha. Medi 2025: Asedau cyfryngau cymdeithasol wedi'u hanimeiddio wedi'u teilwra

Paratowch ar gyfer ymgyrch 'Bydd Wych. Ailgylcha.' yr hydref: 22 Medi – 19 Hydref

Yn lansio ddydd Llun 22 Medi, i gyd-fynd ag Wythnos Ailgylchu, mae ymgyrch 'Bydd Wych. Ailgylcha.' Hydref 2025 yn llawn asedau a gweithgareddau deniadol sy'n manteisio ar y teimlad 'dechreuad newydd' hwnnw – pan fydd arferion yn dychwelyd ar ôl yr haf, nodau iechyd yn cael eu hailosod, a phobl yn fwy agored i newid.

Ymgyrch 'Bydd Wych. Ailgylcha.' yw’r ymdrech gyfunol fwyaf erioed yng Nghymru i roi hwb i Gymru i safle Rhif 1 y byd am ailgylchu a braenaru’r tir ar gyfer dyfodol diwastraff. Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar leihau gwastraff bwyd drwy annog pobl ledled Cymru i fanteisio i’r eithaf ar y bwyd maen nhw'n ei brynu ac ailgylchu beth bynnag na ellir ei fwyta – gartref, yn y gwaith, neu allan o amgylch y fro.

Ymunwch â ni drwy lawrlwytho ein pecyn ac adnoddau partneriaid i gefnogi'r Ymgyrch Gwych hwn a chyflawni eich nodau cynaliadwyedd.

Mae asedau'r ymgyrch dan embargo tan ddydd Llun 22 Medi 2025.

Cynhelir yr ymgyrch tan ddydd Sul 19 Hydref.

Lawrlwytho ffeiliau

01: Pecyn adnoddau partneriaid

02: Animeiddiadau ar gyfer y cyfryngau cymdeithaso

03: Asedau statig ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

04: Fideos a chynnwys dylanwadwyr

05: Calendr cyfryngau cymdeithasol

06: Erthyglau y gellir eu teilwra

07: Posteri

08: Llunwaith lifrai cerbydau

09: Llunwaith llochesi bysiau

10: Llunwaith baneri polion lamp

11: Achub fi! Ailgylcha. - Posteri

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf
5 Medi 2025
Fformatau ffeiliau
pdf, zip, mp4, xlsx, jpg
Ardaloedd
Deunyddiau