Problem
Yn 1999, roedd cyfradd ailgylchu Cymru o dan 4.5%. Fe wnaeth targedau uchelgeisiol strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r genedl ailgylchu a chompostio o leiaf 15% o'i gwastraff yn 2003/04, gan gynyddu'n raddol i 40% erbyn 2009/10.
Gan ddechrau yn 2003, lansiodd Cyngor Sir Fynwy ei strategaeth wastraff ei hun gyda'r nod o gynyddu cyfradd ailgylchu'r awdurdod lleol yn sylweddol o 10% i 40% dros y degawd nesaf. Fel rhan o'r strategaeth hon, yn 2005, fe gyflwynodd wasanaeth casglu gwastraff bwyd i ganiatáu i breswylwyr ailgylchu eu gwastraff bwyd o'u cartref bob wythnos. Roedd cyflwyno'r gwasanaeth hwn yn allweddol i alluogi Sir Fynwy i gyrraedd targed ailgylchu statudol Cymru.
Ateb
Fe wnaeth dull Cyngor Sir Fynwy arwain yr awdurdod lleol at gael un o'r gwasanaethau casglu ailgylchu gwastraff bwyd mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Er mwyn cynnal ac adeiladu ar y llwyddiant hwn, gweithredodd y Cyngor fesurau arloesol pellach wedi’u cynllunio i wneud ailgylchu gwastraff bwyd mor syml, gyfleus ac effeithiol â phosibl i breswylwyr:
- Dosbarthu cadis a bagiau leinio am ddim: Er mwyn lleihau'r rhwystrau i gyfranogiad, gwnaeth y Cyngor finiau gwastraff bwyd, cadis cegin, a leininau cadis ar gael i'w casglu am ddim o Hybiau Cymunedol lleol. Mae hyn yn sicrhau mynediad hawdd i breswylwyr at yr offer sydd ei angen arnynt i ailgylchu eu gwastraff bwyd gartref.
- Lleihau capasiti gwastraff gweddilliol: Ers 2013, mae'r Cyngor wedi lleihau pa mor aml y mae'n casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu o gartrefi, gan ganiatáu i breswylwyr gyflwyno dwy sach ddu untro i'w casglu bob pythefnos. Mae'r cyfyngiad hwn yn cyfyngu ar faint o wastraff na ellir ei ailgylchu y gall preswylwyr ei roi allan i'w gasglu, gan roi cymhelliant i aelwydydd ddidoli a gwahanu eu ffrydiau gwastraff yn fwy effeithiol, gan gynnwys gwastraff bwyd.
- Atal plâu a fermin: Drwy ofyn i breswylwyr roi eu gwastraff bwyd mewn cadi sy’n cloi, yn lle yn eu sachau untro ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, mae'r Cyngor yn helpu preswylwyr i leihau'r risg o blâu a fermin.
Effaith
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn gyson ymhlith yr awdurdodau lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran ailgylchu, gan gyflawni cyfradd ailgylchu uwchlaw 70% ers 2022.
Mae dull amlochrog y Cyngor wedi cyflawni manteision amgylcheddol mesuradwy:
- Lleihau gwastraff bwyd mewn biniau gweddilliol: Fe wnaeth y newidiadau a gyflwynwyd gan y Cyngor yn 2013 helpu i annog preswylwyr i ddefnyddio eu gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd. Rhwng 2012/13 a 2013/14, cynyddodd cyfradd ailgylchu Sir Fynwy o 55.5% i 62.9%, sef yr 2il awdurdod lleol gorau yng Nghymru o ran perfformiad. Mae dros 5,000 tunnell o wastraff bwyd bellach yn cael ei ddargyfeirio o wastraff na ellir ei ailgylchu i dreulio anaerobig bob blwyddyn, gan greu ynni gwyrdd.
- Cyfraddau casglu gwastraff bwyd uwch: Mae cyfradd casglu gwastraff bwyd yn Sir Fynwy ar hyn o bryd yn sefyll ar 76%, lefel trawiadol sy'n dangos llwyddiant mentrau'r Cyngor. Mae cyfanswm y gwastraff bwyd (gan gynnwys gwastraff bwyd wedi'i ailgylchu a gwastraff bwyd sy'n dal yn y sachau du) sy’n cael ei wastraffu gan aelwydydd yn Sir Fynwy hefyd wedi lleihau ac mae ymhlith yr isaf yng Nghymru, sef ychydig dros 150 kg fesul aelwyd bob blwyddyn. Mae data WRAP yn dangos bod defnyddio system casglu gwastraff bwyd yn atgoffa pobl o'r bwyd sy'n cael ei wastraffu, gan wneud dinasyddion yn fwy ystyriol a chydwybodol ynghylch eu gwastraff. Hynny yw, mae gwelededd gwell o wastraff bwyd yn annog defnyddwyr i ailystyried eu harferion bwyta, gan gynnwys cynllunio prydau bwyd a thechnegau storio.
- Prosesu gwastraff bwyd yn gynaliadwy: Ar ôl ei gasglu, caiff gwastraff bwyd ei anfon i waith treulio anaerobig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle caiff ei drawsnewid yn ynni gwyrdd sy'n pweru cartrefi a chymunedau lleol, a thrwy hynny'n cyfrannu at economi gylchol. Y llynedd, cynhyrchodd gwastraff bwyd y Cyngor ddigon o drydan i bweru mwy na 600 o gartrefi am flwyddyn gyfan. Gallwch ddysgu mwy am sut mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu yma.
Drwy’r mesurau wedi’u targedu hyn, mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwella ei raglen ailgylchu gwastraff bwyd yn effeithiol wrth feithrin cynaliadwyedd amgylcheddol hirdymor.