Broblem
Nododd Cyngor Sir Ynys Môn fod perfformiad ei ddwy Ganolfan Ailgylchu yn is na’r targed o 80% a amlinellwyd yn y Glasbrint Casgliadau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd yn 2011. Yn 2012/13, roedd y gyfradd ailgylchu ar gyfer Canolfan Ailgylchu Penhesgyn yn 66%, a chyfradd Canolfan Ailgylchu Gwalchmai yn 63%.
Gwelwyd bod preswylwyr yn dod â llawer iawn o fagiau du i'r ddwy Ganolfan Ailgylchu ac yn eu taflu yn y sgipiau ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, yn hytrach na defnyddio cynwysyddion ailgylchu ar wahân. Dangosodd dadansoddiad o'r gwastraff yn y 'bagiau du' gweddilliol hyn eu bod yn cynnwys swm sylweddol o ddeunydd ailgylchadwy.
Roedd y Cyngor yn awyddus i ddod o hyd i atebion arloesol i annog gwell ailgylchu gan breswylwyr yn y Canolfannau Ailgylchu.
Ateb
Penderfynodd Cyngor Sir Ynys Môn bod didoli bagiau du mewn Canolfannau Ailgylchu yn un ateb i'r broblem hon. Buont yn cydweithio ag awdurdodau cyfagos, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i asesu’r arfer gorau o'u mentrau didoli bagiau du llwyddiannus nhw. Gan adeiladu ar hyn, cyflwynodd y Cyngor ei fenter didoli bagiau du ei hun yn ei Ganolfannau Ailgylchu ym Mhenhesgyn a Gwalchmai yn 2013.
Roedd y fenter newydd yn ei gwneud yn ofynnol i breswylwyr ddidoli unrhyw wastraff bagiau du a ddygwyd i Ganolfan Ailgylchu a gwahanu'r deunydd ailgylchadwy oddi wrth yr eitemau o wastraff na ellir eu hailgylchu a oedd yn weddill. Roedd staff y safle wrth law i gyfarch preswylwyr, esbonio'r drefn ddidoli, a'u haddysgu am bwysigrwydd gwahanu eu heitemau ailgylchadwy. Cynlluniwyd man cysgodol yn benodol i alluogi preswylwyr i wahanu eitemau i wahanol gynwysyddion ailgylchu yn rhwydd. Sicrhaodd y staff ymhellach fod deunyddiau'n cael eu gwahanu'n gywir ac nad oedd unrhyw ddeunydd ailgylchadwy’n cyrraedd y sgipiau ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Yn ogystal, gofynnwyd i aelodau'r cyhoedd hefyd ddangos prawf preswylio, megis bil cyfleustodau wedi’i ddyddio o fewn y tri mis diwethaf, i gael mynediad i'r Ganolfan Ailgylchu. Arweiniodd y gofyniad hwn at leihad yn y camddefnydd o safleoedd gan bobl sy’n byw mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill.
Effaith
Arweiniodd y mesurau a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn at welliant sylweddol i gyfraddau ailgylchu yn eu canolfannau ailgylchu.
Cynnydd mewn casglu deunydd ailgylchadwy: Cynyddodd cyfraddau ailgylchu Canolfan Ailgylchu Penhesgyn o 66% yn 2012/13 i 77% yn 2013/14, a chododd cyfradd ailgylchu Canolfan Ailgylchu Gwalchmai o 63% yn 2012/13 i 71% yn 2013/14.
Gostyngiad mewn gwastraff gweddilliol: Erbyn 2023/24, roedd y tunelli o wastraff na ellir ei ailgylchu yng Nghanolfan Ailgylchu Penhesgyn wedi gostwng gan 65%. Gwelodd Canolfan Ailgylchu Gwalchmai hefyd ostyngiad sylweddol mewn gwastraff gweddilliol, gan ostwng 45% erbyn 2023/24. Gyda help gwiriadau preswylio a'r system archebu slot newydd ar un o'r safleoedd, chwaraeodd yr arfer o gyflwyno didoli bagiau du rôl allweddol mewn cynyddu ailgylchu yn y Canolfannau Ailgylchu.
Cynnydd mewn eitemau sy'n cael eu dargyfeirio i'w hailddefnyddio: Mae ardaloedd danfon eitemau i’w hailddefnyddio a roddwyd ar waith yn ddiweddar bellach yn caniatáu i breswylwyr roi eitemau i'w hailddefnyddio yn y gymuned, gan eu symud i fyny'r hierarchaeth wastraff.
Mwy o ymgysylltiad cymunedol â rheoli adnoddau, gyda’r ymateb gan y cyhoedd yn gadarnhaol ar y cyfan, a mwy o breswylwyr yn cyrraedd y Canolfannau Ailgylchu gyda'u gwastraff eisoes wedi'i ddidoli ac yn barod i'w ailgylchu.
Canolfannau Ailgylchu wedi'u dylunio'n well, ac mae mannau didoli cyhoeddus cysgodol penodol bellach yn chwarae rhan hanfodol mewn cynyddu faint o ddeunydd ailgylchadwy a gaiff ei adennill.
Mae strategaeth Cyngor Sir Ynys Môn wedi dangos y gall gwneud didoli bagiau du yn orfodol roi hwb sylweddol i gyfraddau ailgylchu mewn canolfannau ailgylchu. Mae darparu ardaloedd didoli wedi'u dylunio'n dda wedi helpu llif y safle, lleihau ciwiau, a gwneud y broses gyfan yn syml ac yn effeithlon. Trwy ymgysylltu mwy â phreswylwyr, mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr bellach yn cyrraedd gyda’u gwastraff eisoes wedi’i ddidoli, gyda’r gweddill yn gwneud defnydd rhagorol o’r gorsafoedd didoli ailgylchu cyhoeddus dan do. Mae'r mesur hwn yn rhoi'r Cyngor mewn sefyllfa gref i fwyhau dargyfeirio mewn Canolfannau Ailgylchu ac mae'n darparu model i awdurdodau eraill ei ddilyn.