Broblem
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi gwelliannau sylweddol ar waith i'w gasgliadau ailgylchu ar garreg y drws, gan ennill cydnabyddiaeth gynnar fel un o'r ardaloedd blaenaf yng Nghymru am ailgylchu. Fodd bynnag, fel llawer o awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig, roedd y Cyngor yn wynebu pwysau ariannol cynyddol, gan olygu bod angen dulliau arloesol i gynnal gwasanaethau casglu gwastraff o ansawdd uchel i breswylwyr.
Datgelodd adolygiad o’i ddarpariaethau gwasanaeth fod cyfran sylweddol o’i gyllideb wedi’i dyrannu i gasgliadau gwastraff gardd, gwasanaeth anstatudol. Gan gydnabod cyfle i leihau costau gan ddal i gynnal cefnogaeth i breswylwyr, cyflwynodd y Cyngor wasanaeth tanysgrifio gwastraff gardd â thâl. Roedd y newid strategol hwn yn cyd-fynd â mentrau tebyg a fabwysiadwyd eisoes gan gynghorau eraill yng Nghymru.
Ateb
Er mwyn mynd i'r afael â chyfyngiadau cyllidebol wrth sicrhau mynediad parhaus at gasgliadau gwastraff gardd, lansiodd Cyngor Bro Morgannwg wasanaeth casglu gwastraff gardd â thâl yn 2023. Roedd y gwasanaeth yn gweithredu bob pythefnos o fis Mawrth i fis Tachwedd, ac wedi’i gynllunio i fod yn fforddiadwy, yn hygyrch ac yn hyblyg drwy gynnig:
- Dewisiadau tanysgrifio wedi'u teilwra: Mae system ddwy haen yn caniatáu i breswylwyr ddewis tanysgrifiad yn seiliedig ar eu hanghenion. Mae aelwydydd sy'n cyflwyno hyd at wyth bag o wastraff gardd fesul casgliad yn gymwys i gael gwasanaeth am bris is, gan sicrhau fforddiadwyedd i aelwydydd sy'n cynhyrchu symiau llai o wastraff.
- Hyd gwasanaeth hyblyg: Gan gydnabod anghenion amrywiol preswylwyr, mae'r Cyngor yn cynnig tanysgrifiadau o ddau hyd, gan gynnwys gwasanaeth tymor llawn wyth mis o fis Ebrill i fis Tachwedd, ac opsiwn gwasanaeth hanner tymor pedwar mis o fis Awst i fis Tachwedd.
- Casgliadau ad hoc yn y gaeaf: Mae'r Cyngor hefyd yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth. Caiff preswylwyr sydd â thanysgrifiad gwastraff gardd gweithredol archebu casgliadau, yn ôl yr angen, yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn cynnig mwy o hyblygrwydd a gwerth am arian i breswylwyr.
- Proses gasglu hawdd ei defnyddio: Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio er mwyn bod yn hawdd ei defnyddio. Yn syml, mae preswylwyr yn cyflwyno eu gwastraff gardd ar garreg y drws mewn bagiau gwyrdd amldro a ddarperir gan y Cyngor erbyn 7yb ar eu diwrnod casglu arferol.
- Prosesau mewnol arloesol: Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn ddibynadwy ac yn diwallu anghenion tanysgrifwyr, mae'r criwiau casglu yn defnyddio'r system gyfeiriadu what3words i fapio lleoliadau aelwydydd mewn ardaloedd gwledig. Mae hyn yn sicrhau bod pob preswylydd sydd wedi tanysgrifio yn cael gwasanaeth rheolaidd, ac nad oes unrhyw wastraff gardd a gyflwynir i'w gasglu yn cael ei fethu.
I breswylwyr sydd â meintiau llai o wastraff gardd, mae'r Cyngor yn hyrwyddo opsiynau amgen yn weithredol, gan gynnwys:
- Canolfannau Ailddefnyddio ac Ailgylchu, lle gellir danfon gwastraff gardd am ddim; a
- Compostio gartref, gyda chanllawiau cynhwysfawr ar gael ar wefan y Cyngor, gan gynnwys awgrymiadau i ddechrau compostio i feithrin mwy o gynaliadwyedd yn y gymuned.
Effaith
Roedd Cyngor Bro Morgannwg yn cydnabod y risgiau o gyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff gardd y codir tâl amdano. Mynegwyd pryderon gan rai Aelodau’r Cyngor, a oedd yn ofni y gallai’r newid effeithio’n negyddol ar gyfraddau ailgylchu neu arwain at beidio â chasglu digon o wastraff gardd i fodloni rhwymedigaethau cytundebol gydag ailbroseswyr. Er gwaethaf y pryderon cychwynnol hyn, mae'r gwasanaeth wedi profi i fod yn llwyddiant, gan ddarparu manteision ariannol a gweithredol sylweddol i'r Cyngor.
- Yn ei flwyddyn gyntaf, prynwyd y tanysgrifiad casgliadau gwastraff gardd gan 12,635 o breswylwyr, a gynhyrchodd gyfanswm incwm o £262,880 i gefnogi rhedeg y gwasanaeth.
- Casglodd y Cyngor swm sylweddol o 5,071 tunnell o wastraff gardd yn 2022/23 drwy ei gynllun tanysgrifio gwastraff gardd; roedd yr ychwanegiad o 1,145 tunnell a gasglwyd mewn Canolfannau Ailddefnyddio ac Ailgylchu yn golygu bod y Cyngor wedi llwyddo i gyflenwi'r tunelli gofynnol o ddeunydd i fodloni ei delerau cytundebol.
- Mae preswylwyr sydd angen y gwasanaeth yn talu amdano, gan leihau'r baich ariannol i'r trethdalwr cyffredinol, gan gynnal gwasanaeth casglu o ansawdd uchel ar yr un pryd.
- O fewn blwyddyn ar ôl ei weithredu, roedd y gwasanaeth tanysgrifio wedi cyflawni arbedion blwyddyn gyfan cymharol o dros £470,000 i'r Cyngor. Cefnogodd yr arian a gafodd ei arbed y gwasanaeth drwy heriau, fel yr argyfwng costau byw a phroblemau gydag argaeledd gyrwyr.
Mae lansio'r gwasanaeth tanysgrifio hwn yn tynnu sylw at ymateb rhagweithiol Cyngor Bro Morgannwg i heriau cyllidebol, gan ddangos sut y gall cynllunio meddylgar a dylunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr sicrhau effeithlonrwydd a chynaliadwyedd parhaus wrth reoli gwastraff yn lleol.