27 Ionawr 2026 Astudiaeth Achos

Arferion caffael cynaliadwy yng Nghymdeithas Tai ClwydAlyn gyda Beko

Bu tîm caffael cynaliadwy WRAP Cymru yn gweithio mewn cydweithrediad â ClwydAlyn, cymdeithas dai yng Ngogledd Cymru a Beko i gefnogi cyflwyno model prynu prydlesu cylchol newydd, er mwyn bod yn fwy cynaliadwy, cost-effeithiol a chynyddu gwerth cymdeithasol mewn tai cymdeithasol.

Problem

Symud i ffwrdd o'r dull llinol, tymor byr a drud o fod yn berchen ar offer i ddull sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth i ClwydAlyn, mewn proses gost-effeithlon, sy’n galw am lai o gynnal a chadw, a chyflawni manteision cynaliadwy ac economi gylchol.

Ateb

Newid o gytundeb prynu 'trafodaethol' i senario prydlesu sy'n ystyried cost oes gyfan yr ased, ac yn annog y rhanddeiliaid i ddarparu dewisiadau amgen hirdymor, cynaliadwy, cylchol ac arloesol.

Effaith

Roedd hyn yn darparu ateb cost-effeithiol gyda llai o alw am gynnal a chadw wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i gleientiaid a rhanddeiliaid tai cymdeithasol ClwydAlyn.

Problem

Yn y gorffennol, byddai cymdeithasau tai fel arfer yn prynu nwyddau gwyn neu'n prydlesu unedau masnachol a oedd yn aml wedi'u gor-beiriannu ar gyfer y tasgau domestig yr oedd eu hangen. Mae'r astudiaeth achos hon yn archwilio'r cyfle i brydlesu a datblygu perthynas hirdymor rhwng y prynwr a'r darparwr/gwneuthurwr offer i’w ddefnyddio ar lefel ddomestig.

Ateb

Mae caffael cynaliadwy a darparu gwasanaethau cylchol, fforddiadwy ac arloesol yn cael eu hamlygu yn nghanllawiau hierarchaeth caffael cynaliadwy WRAP Cymru, sy'n tynnu sylw at effaith gadarnhaol prydlesu offer fel yr amlinellir isod:

Wrth brydlesu offer, mae'r defnyddiwr a'r gwerthwr yn elwa trwy hyrwyddo defnydd hirdymor yr ased, oherwydd y canlynol:

  • Mae costau cychwynnol is o fudd i lif arian y prynwr ac yn darparu ffynhonnell incwm hirdymor i'r gwerthwr.
  • Mae opsiwn prydlesu yn cefnogi'r syniad o 'ddylunio' gwell, felly mae'r gwneuthurwr yn dylunio ac yn adeiladu peiriannau ac offer gyda chynnal a chadw, atgyweirio ac adfer deunyddiau mewn golwg.
  • Gall costau oes gyfan is fod yn sgil-gynnyrch o'r cysyniad 'cynnyrch-fel-gwasanaeth' hwn.
  • Rheoli yn ystod oes yn haws i’r prynwr, gan mai cyfrifoldeb y cyflenwr yw unrhyw fethiant gan y cynnyrch a’r cyflenwr fyddai'n ymdrin ag atgyweiriadau ac yn rheoli cynnal a chadw parhaus.
  • Sicrheir tryloywder o ran costau gan gytundeb sy'n manylu ar swm penodol o arian wedi’i ddyrannu fesul mis/blwyddyn ar hyd cyfnod y contract (tair blynedd yn yr achos hwn, ond gellir negodi contractau hirach).
  • Roedd y dull mwy cynaliadwy hwn o gaffael offer o fudd i ClwydAlyn gan iddo arbed arian dros gyfnod y contract, defnyddio llai o ynni oherwydd effeithlonrwydd y nwyddau (ac felly llai o allyriadau CO2 yn gysylltiedig â'u defnyddio), yn ogystal â chyflogi peirianwyr lleol i wasanaethu a chynnal a chadw'r offer (ac felly roedd o fudd i'r economi leol).

Roedd Beko wedi credu ers tro y gallai fod dewis arall yn lle'r model gwerthu llinol ar gyfer offer ond roeddent wedi cael trafferth dod o hyd i bartner i weithio gydag ef i wireddu hynny.

Yn ClwydAlyn, fe wnaethon ni ddod o hyd i bartner a oedd yn rhannu ein hangerdd a'n dyhead i symud i fodel busnes cylchol sy'n cynnig cynaliadwyedd a manteision cymdeithasol, gan hefyd fod yn ddichonadwy’n fasnachol i'r ddwy ochr.

Roedd gweithio gyda Neil Lynch a'r tîm cyfan yn ClwydAlyn yn bleser pur, roedd eu hymdrech a'u hagwedd benderfynol yn hanfodol i lwyddiant y prosiect, ac edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith gyda nhw i adeiladu ar y cynllun peilot hwn.  Gobeithiwn y bydd yr enghraifft hon o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth yn ysbrydoli cymdeithasau tai eraill ac awdurdodau lleol i wneud prydlesu cynnyrch ar gyfer tai cymdeithasol yn ffordd ddiofyn o gyflenwi offer yn y dyfodol.

Andrew Mullen, Arbenigwr Cynaliadwyedd a Materion Rheoleiddio, Beko 

Effaith

Fe wnaeth y manteision uniongyrchol o newid o'r offer masnachol blaenorol i beiriannau golchi dillad domestig llai o dan y cytundeb prydlesu newydd arwain at:

  • Gostyngiad sylweddol mewn costau gyda'r 4 peiriant newydd (sychwyr dillad a pheiriannau golchi dillad) yn dod am gost o £55.60 y mis, tua 10% o gost y peiriannau blaenorol, heb unrhyw daliadau balŵn. Mae'r model prydlesu newydd hwn yn arbed £430 y mis.
  • Arweiniodd effeithlonrwydd cynyddol yr unedau newydd at lai o drydan yn cael ei ddefnyddio, gyda’r union ffigurau i'w pennu gyda monitro pellach.
  • Cafodd gweithredwyr gwasanaethau lleol eu cynnwys yn y costau prydlesu hefyd i ddarparu gwasanaethu ac atgyweiriadau yn ôl yr angen, gan gefnogi cyflogaeth leol.

Yn ogystal â chyflwyno cyfle gwych i arbed arian, mae’r prosiect hwn wedi ein galluogi i edrych ar gynaliadwyedd a chyfleoedd cylchol.

Bydd y model gwasanaeth yn dod â manteision i ClwydAlyn drwy brydlesu offer domestig o safon uchel i sicrhau ein bod yn cael y defnydd gorau posibl ac yn atal prynu a gwaredu sawl eitem o offer dro ar ôl tro o fewn yr un amserlen. Mae hefyd wedi lleihau ein defnydd o ynni, ac mae adborth gan breswylwyr a staff yn dangos bod yr offer newydd wedi gwella delwedd ac amgylchedd ein mannau golchi dillad ar safleoedd ac wedi cynnig ateb domestig y bydd pobl yn ei ddefnyddio yn y gymuned wrth symud tuag at annibyniaeth.

Mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gydag Andrew Mullen yn Beko ac rwy'n gwerthfawrogi ei ymddiriedaeth a'i gefnogaeth yn fawr drwy gydol cysyniad a dyluniad y model gwasanaeth. Hoffwn hefyd ddiolch i Huw Lloyd o dîm caffael cynaliadwy WRAP Cymru a awgrymodd y syniad yn y lle cyntaf ac sydd wedi darparu cefnogaeth a chyngor yn gyson ers y diwrnod cyntaf.

Neil Lynch, Pennaeth Caffael, Contractau a Gwerth Cymdeithasol, ClwydAlyn