Eleni, mae Arolwg Tracio Ailgylchu WRAP yn dathlu 21 mlynedd o olrhain agweddau, gwybodaeth ac ymddygiad dinasyddion yng Nghymru. Dyma'r arolwg mwyaf o'i fath, sy’n tynnu sylw at y materion hollbwysig y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw er mwyn gwneud cynnydd gwirioneddol.
Cynhaliwyd gwaith maes ar-lein, o 13 Mawrth – 31 Mawrth 2025. Cyfwelwyd cyfanswm o 1,001 o oedolion Cymru sy’n gyfrifol am ymdrin â’r sbwriel ac ailgylchu gartref. Gosododd y sampl gwotâu ar oedran, rhywedd, rhanbarth, dosbarth cymdeithasol ac ethnigrwydd i gynrychioli poblogaeth y genedl yn agos.
Canfyddiadau allweddol
- Normau cymdeithasol: Mae 22% o ddinasyddion Cymru yn canfod ailgylchu sych fel norm cymdeithasol cadarn, gyda sgôr gyfartalog o 7.9 allan o 10. Mae normau cymdeithasol yng Nghymru yn gryfach na'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol, yn enwedig lle mae pobl yn cofio ymgyrchoedd (e.e., Bydd Wych).
- Mae problemau parhaus yn dal i fod o ran cywirdeb, teimladau bod ailgylchu’n werth chweil, hyder, a gwybodaeth.
- Fodd bynnag, mae cyfranogiad mewn ailgylchu yn uchel: Mae Cymru ar y blaen o ran cyfranogiad mewn ailgylchu yn y Deyrnas Unedig – mae 94% o ddinasyddion Cymru yn nodi eu bod yn ailgylchu’n rheolaidd gartref.
- Gwerth chweil: Mae 76% o ddinasyddion Cymru yn cytuno â'r datganiad “Rwy'n teimlo bod fy ymdrechion ailgylchu yn werth chweil”.
- Halogiad: Mae 85% o aelwydydd Cymru yn rhoi o leiaf un eitem nad yw'n cael ei derbyn yn y biniau ailgylchu. Mae halogiad yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig ac wedi'i ganoli mewn rhestr fer o ddeunyddiau 'anodd' fel ffoil/ pecynnau ffoil, erosolau, ffilmiau hyblyg, rhai cartonau bwyd/diod a nwyddau trydanol/nwyddau ymolchi bach.
- Colledion casglu: Mae 77% o aelwydydd Cymru’n colli o leiaf un eitem o'r ailgylchu (pan gynhwysir poteli persawr/persawr eillio gwydr). Ar gyfartaledd, mae aelwydydd Cymru yn colli 2.0 eitem fesul casgliad ailgylchu.
- Hyder: Dim ond 15% o ddinasyddion Cymru sy'n teimlo’n “hyderus iawn” ynghylch yr hyn y gellir/na ellir ei ailgylchu; gyda 63% yn “hyderus ar y cyfan”. Mae dryswch yn parhau ynghylch eitemau fel plastigion meddal, pecynnau ffoil, a phecynwaith o ddeunyddiau cymysg.
- Ailgylchu gwastraff bwyd: Dywed 80% o ddinasyddion Cymru fod ganddynt fynediad at wasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd a’u bod yn ei ddefnyddio. Fodd bynnag, mae 16% sydd â gwasanaeth ond nid ydynt yn ei ddefnyddio ac mae 5% yn honni nad oes ganddynt wasanaeth.
- Archwaeth i ailddefnyddio ac ail-lenwi: Mae dau o bob pump (40%) o ddinasyddion Cymru yn agored i fabwysiadu arferion ail-lenwi. Y cymhellion mwyaf yw arbed arian neu gael eu gwobrwyo’n ariannol. Y rhwystrau allweddol a adroddwyd yw pryderon ynghylch cost, cyfleustra a hylendid ond hefyd argaeledd.
- Ailgylchu yn y gwaith: Mae tri o bob pedwar (71%) o ddinasyddion Cymru yn cofio gweld cyfleusterau ailgylchu ac mae 86% yn nodi eu bod yn ailgylchu'n aml yn eu gweithle.
- Ailgylchu oddi cartref: Mae 68% o ddinasyddion Cymru yn nodi eu bod wedi gweld cyfleusterau ailgylchu yng nghanol trefi a dinasoedd. Fodd bynnag, y cyfraddau uchaf o ailgylchu mynych oddi cartref oedd ymhlith myfyrwyr mewn prifysgol neu goleg lle mae dau o bob pump (40%) yn nodi eu bod yn eu defnyddio “yn aml iawn”.
Argymhellion
Llywodraeth Cymru
Mae traciwr ailgylchu 2025 yn canfod tystiolaeth barhaus bod angen cryf am ymgyrch gwastraff cenedlaethol effeithiol ochr yn ochr â pholisïau newydd fel Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith i hybu normau cymdeithasol a theimladau o werth canfyddedig ailgylchu. Gall Llywodraeth Cymru deilwra'r ymgyrchoedd hyn gan adeiladu ar fewnwelediadau o ymchwil sy'n bodoli eisoes a llwyddiant “Cymru yn Ailgylchu” a “Bydd Wych” i greu neges genedlaethol ar gyfer ailgylchu yng Nghymru.
Awdurdodau Lleol
Gall Awdurdodau Lleol ddefnyddio refeniw sy'n dod i mewn o pEPR i fynd i'r afael â materion ar raddfa leol a darparu canllawiau clir ac uniongyrchol i gefnogi dinasyddion ynghylch yr hyn y gellir/na ellir ei ailgylchu. Dylai Awdurdodau Lleol adeiladu ar y dirnadaethau presennol o’r Traciwr a gwaith “Bydd Wych” i ganfod a thargedu materion allweddol a grwpiau poblogaeth yn llwyddiannus. Gall Awdurdodau Lleol gysylltu â Rhaglen Newid Gydweithredol WRAP ([email protected]) i gael cymorth i gynhyrchu cyfathrebiadau clir, wedi’u llywio gan wyddor ymddygiadol, i ysgogi mwy o ailgylchu a chywirdeb ailgylchu.
Cynhyrchwyr a busnesau
Dylai cynhyrchwyr anelu at symleiddio pecynwaith a chyd-fynd ag argymhellion pEPR. Bydd dylunio ar gyfer ailgylchu yn lleihau'r rhwystrau o ran gwahanu deunyddiau i ddinasyddion. Dylai cynhyrchwyr gyd-fynd ag arfer gorau canllawiau ar gyfer labelu sy'n integreiddio ysgogiadau ymddygiadol i negeseuon ar y pecyn, yn ogystal â defnyddio labeli clir, uniongyrchol fel OPRL – y canfuwyd eu bod yn cyd-fynd â lefelau is o halogiad.
Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn y gweithle, ewch i wefan y Busnes o Ailgylchu Cymru WRAP yma
Lawrlwytho ffeiliau
-
Arolwg Tracio Ailgylchu yng Nghymru – Gwanwyn 2025
PDF, 432.52 KB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.