Arolwg Rheoli Bwyd Aelwydydd WRAP (yr Arolwg Traciwr Bwyd gynt) yw'r arolwg mwyaf a hiraf o'i fath, yn cael ei gynnal ers 2007, gan gasglu tystiolaeth ar agweddau, gwybodaeth ac ymddygiad dinasyddion tuag at wastraff bwyd. Fe'i cynlluniwyd i lywio gwaith polisi ac ymgyrchu WRAP drwy asesu unrhyw newidiadau mewn agweddau ac ymddygiad dros amser.
Cynhaliwyd y gwaith maes ar-lein gan Icaro, rhwng 30 Mehefin a 14 Gorffennaf 2025. Cynhaliwyd cyfanswm o 1,038 o gyfweliadau gydag oedolion yng Nghymru sy’n gyfrifol am siopa a / neu baratoi bwyd yn y cartref.
Canfyddiadau allweddol
- Mae pwysau costau byw wedi cynyddu. Mae’r gyfran o ddinasyddion Cymru sy'n dweud eu bod yn cadw ar ben pethau heb anhawster wedi gostwng o 45% yn 2024 i 38% yn 2025, ac mae’r rhai sy'n cael trafferth fawr wedi cynyddu o un o bob pump (20%) i un o bob pedwar (26%). Mae pryderon ynghylch prisiau bwyd a'r gallu i brynu digon o fwyd iddyn nhw eu hunain neu eu teulu yn parhau i sgorio’n uwch na phryderon am wastraff bwyd.
- Mae ymddygiadau rheoli bwyd wedi gwella at ei gilydd. Bu gostyngiad bach yn y gyfran o bobl a roddodd sgôr wannach iddyn nhw eu hunain wrth farnu a phrynu'r swm cywir, gan awgrymu siopa mwy bwriadol o dan bwysau costau byw cynyddol. Gwellodd cymwyseddau eraill hefyd.
- Mae gwastraff hunangofnodedig o'r pedwar cynnyrch allweddol (bara, tatws, llaeth a chyw iâr) wedi gostwng ychydig yn 2025. Mae gwastraff tatws nawr ar ei isaf erioed, ond mae gwastraff bara wedi cynyddu ychydig. 19.3% yw’r gwastraff cyfartalog ar draws y bwydydd hyn yng Nghymru, sydd fymryn yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (18.8%).
- Mae goddefgarwch agweddol tuag at wastraff bwyd a phwysau amser yn cynyddu. Mae pedwar ar ddeg y cant bellach yn nodi eu bod yn gyfforddus wrth beidio â defnyddio'r holl fwyd maen nhw'n ei brynu, i fyny o 11% yn 2024, ac mae nodi pwysau amser wedi codi o 39% i 44%.
- Mae prydau bwyd wedi'u dadleoli (prydau bwyd a gaiff eu bwyta y tu allan i'r cartref) yn cynyddu yng Nghymru. Mae 17% o ddinasyddion Cymru yn nodi eu bod yn bwyta nifer fawr o brydau bwyd y tu allan i'r cartref (i fyny o 9% yn 2024).
- Mae gwastraffwyr bwyd uchel yn cynyddu. Cododd cyfran y gwastraffwyr bwyd uchel o 24% i 28% (y DU: 27%), gyda chrynodiad ymhlith oedolion iau, aelwydydd â phlant, aelwydydd mwy, siopwyr mynych, a'r rhai â sgiliau rheoli bwyd is neu nifer uwch o brydau bwyd wedi'u dadleoli.
- Mae ‘gwadu’ gwastraff bwyd yn parhau. Mae tua wyth o bob deg o bobl yn credu eu bod yn gwastraffu llai o fwyd na'r aelwyd gyffredin, ac mae llawer yn derbyn bod rhywfaint o wastraff bwyd yn anochel. Mae hyn yn lleihau cymhelliant i newid a gall gyfyngu ar effaith ymgyrchoedd sy'n cael eu harwain gan wybodaeth.
- Mae meintiau / fformatau a phrisiau pecynnau yn parhau i ddylanwadu ar benderfyniadau prynu. Prynu nwyddau sydd bron â chyrraedd eu dyddiad darfod yw'r peth mwyaf cyffredin; mae pecynnau llai yn llai poblogaidd. Mae dwy ran o dair yn dewis pecynnau llai ar gyfer maint yr aelwyd, mae dros 80% yn prynu pecynnau mwy am werth am arian. Prisio tecach/cymesur a mwy o ffrwythau a llysiau rhydd sy’n cael y gefnogaeth gryfaf. Defnyddir prisio uned yn anghyson, yn enwedig gan y rhai a fyddai’n elwa fwyaf.
- Mae adnabod cyfathrebiadau gwastraff bwyd wedi gostwng, yn enwedig ymwybyddiaeth am faint o fwyd sy'n cael ei daflu. Mae adnabyddiaeth y logo Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn parhau'n sefydlog uwchlaw cyfartaledd y Deyrnas Unedig (35% yn erbyn 33%).
- Mae casgliadau gwastraff bwyd yn parhau i gael eu defnyddio'n helaeth, sy’n tynnu sylw at gyfranogiad cryf Cymru mewn ailgylchu ac yn cynnig llwyfan ar gyfer atal pellach.
Lawrlwytho ffeiliau
-
Arolwg Rheoli Bwyd Aelwydydd yng Nghymru 2025 Crynodeb Gweithredol
PDF, 295.12 KB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.