8 Gorffennaf 2025 Astudiaeth Achos

Gweithio ar y cyd i wella ailddefnyddio ac ailgylchu yng Nghonwy a Sir Ddinbych

Problem

Mae preswylwyr etholaethau cyfagos Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych wedi cael trafferth ers tro i gael mynediad at eu Canolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu agosaf oherwydd lleoliad ffiniau gweinyddol yr awdurdodau lleol. Er bod cyfleusterau ailgylchu yn bodoli yn y ddwy ardal, roedd yn rhaid i rai preswylwyr deithio ymhellach o lawer i gyrraedd safle dynodedig yn eu sir eu hunain, yn hytrach na defnyddio canolfan fwy cyfleus ychydig dros y ffin sirol. Roedd y cyfyngiad hwn yn arwain at amseroedd teithio hirach, anghyfleustra i breswylwyr, a gostyngiadau posibl mewn cyfraddau ailgylchu.

Gan gydnabod y cyfle i wella hygyrchedd gwasanaethau a chynyddu cyfranogiad mewn ailddefnyddio ac ailgylchu, chwiliodd y ddau gyngor am ateb cydweithredol a fyddai'n lleihau rhwystrau gweinyddol ac yn gwella hwylustod i’r cyhoedd.

Ateb

Ym mis Ebrill 2022, llofnododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych gontract ar y cyd â Bryson Recycling i ganiatáu i breswylwyr gael mynediad at eu Canolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu fwyaf cyfleus, waeth beth fo ffiniau awdurdodau lleol. Nod y cydweithredu hwn oedd gwneud ailgylchu'n fwy cyfleus i breswylwyr a chefnogi targedau ailddefnyddio ac ailgylchu uchelgeisiol Cymru drwy gynyddu faint o wastraff sy'n cael ei ddargyfeirio i'w ailddefnyddio.

Mae Bryson Recycling yn gweithredu pum Canolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol: Abergele a Mochdre yng Nghonwy, a Dinbych, y Rhyl a Rhuthun yn Sir Ddinbych.

Mae'r bartneriaeth yn cynnig manteision i breswylwyr drwy'r gwelliannau canlynol:

  • Mynediad hyblyg: Gall preswylwyr Conwy a Sir Ddinbych nawr ddefnyddio unrhyw Ganolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu os yw'n agosach neu'n fwy cyfleus, yn seiliedig ar eu harferion dyddiol.
  • Cyfleusterau gwell: Mae safleoedd yn Ninbych a Rhuthun yn derbyn amrywiaeth eang o ddeunyddiau i'w hailddefnyddio neu eu hailgylchu, gan ei gwneud hi'n hawdd i breswylwyr waredu gwastraff mewn ffordd gyfrifol.
  • Haws i’w defnyddio: Mae arwyddion newydd, oriau agor cynharach, a mynediad gwell, wedi gwella’r profiad defnyddiwr yn gyffredinol.
  • Cyfleoedd ailddefnyddio estynedig: Agorodd y Siop 'Dewis Ailddefnyddio' yng Nghanolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu’r Rhyl, cydweithrediad rhwng Bryson Recycling, Cyngor Sir Ddinbych a Hosbis Dewi Sant, yn swyddogol ym mis Mai 2022. Gyda chefnogaeth y Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, mae'r siop yn ymestyn oes eitemau’r cartref y gellir eu hailddefnyddio, gan gynhyrchu incwm gwerthfawr i elusen. Mae'r bartneriaeth hefyd wedi caniatáu ehangu'r Siop 'Dewis Ailddefnyddio' yng Nghanolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu Mochdre.
  • System archebu: Mae'r ddau gyngor yn defnyddio system archebu ar-lein ar y cyd i fonitro 'llif net' ymweliadau i fesur llif gwastraff i'r ddau gyfeiriad a sicrhau nad oes unrhyw effeithiau ariannol anfwriadol. Fel rhan o'r cytundeb, os yw'r 'llif net' i un cyfeiriad yn fwy na throthwy penodol, gellir cymhwyso tâl y cytunwyd arno fesul ymweliad.

Effaith

Ers cyflwyno'r contract ar y cyd a gwelliannau i'r cyfleusterau, mae preswylwyr Conwy a Sir Ddinbych wedi dweud ei bod hi'n haws ailgylchu eu gwastraff, gan arwain at fwy o gyfranogiad mewn ailddefnyddio ac ailgylchu. Mae'r manteision allweddol yn cynnwys:

  • Gostyngiad yn y pellteroedd a deithiwyd: Mae gallu defnyddio'r Ganolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu sydd wedi'i lleoli’n fwyaf cyfleus yn lleihau teithio diangen, gan leihau allyriadau a hyrwyddo effeithlonrwydd.
  • Effaith ariannol: Ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, mae llif net y gwastraff wedi bod yn gytbwys felly nid oes angen i'r naill gyngor godi tâl ar y llall. Mae arbedion cost wedi'u creu drwy arbedion maint ac effeithlonrwydd drwy ddefnyddio adnoddau a rennir.
  • Cynnydd mewn ailddefnyddio: Yn 2023/24, cyrhaeddodd cyfanswm yr ailddefnyddio cyfunol ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych 1,758 tunnell, i fyny o 1,701 tunnell yn 2022/23. Dros y tair blynedd ers dechrau’r cydweithio, mae dros 5,280 o dunelli o ddeunydd wedi cael ei ailddefnyddio, gan helpu i gadw adnoddau gwerthfawr mewn cylchrediad. Mae'r Siop 'Dewis Ailddefnyddio' yng Nghanolfan Ailddefnyddio ac Ailgylchu Mochdre wedi dargyfeirio dros dair tunnell y flwyddyn o ddeunyddiau DIY (fel brics, paent, teils a phren) o'r ffrwd gwastraff gweddilliol.
  • Cynnydd tuag at nodau Llywodraeth Cymru: Mae'r cydweithredu hwn yn cyd-fynd â thargedau uchelgeisiol Cymru ar gyfer gwastraff ac ailgylchu, gan atgyfnerthu enw da'r wlad fel arweinydd yn yr economi gylchol.

Drwy gael gwared ar rwystrau gweinyddol a gwella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych wedi dangos sut y gall cydweithio sbarduno gwelliannau ystyrlon mewn rheoli gwastraff, gan wneud ailddefnyddio ac ailgylchu yn haws ac yn fwy effeithiol i breswylwyr.